Dyddiad
Bydd côr bechgyn yn perfformio mewn seremoni deimladwy i nodi canrif ers marwolaeth y bardd Cymraeg Hedd Wyn – ac yn gwneud hynny gyda chymorth arian a atafaelwyd gan droseddwyr.
Ymysg aelodau Only Boys Aloud, sy’n cael ei redeg gan elusen Aloud, fydd yn canu ger Porth Menin yn Ypres, Gwlad Belg ym mis Tachwedd, y mae Tomos Jones, 16 oed, o Abergele.
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Evans, o Drawsfynydd, a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Enillodd Hedd Wyn y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 ym Mhenbedw ychydig wythnosau ar ôl iddo farw ar faes y gad.
Y daith i Wlad Belg fydd perfformiad cyntaf y côr ar dir tramor.
Dyfarnwyd grant o £5,000 i’r côr 60 aelod gan gronfa Eich Cymuned Eich Dewis a sefydlwyd ar y cyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT).
Cafodd llawer o’r arian ei adennill trwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o gronfeydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ei hun.
Galwodd y Comisiynydd Arfon Jones heibio i sesiwn ymarfer y côr yn Theatr Pafiliwn y Rhyl i weld drosto’i hun y gwahaniaeth y mae’r grant yn ei wneud.
Yno fe gyfarfu â Tomos Jones sydd wedi bod yn aelod o gôr Only Boys Aloud yng ngogledd Cymru o’r cychwyn cyntaf, a ddywedodd ei fod wedi ei helpu i feithrin cyfeillgarwch fydd yn parhau am oes.
Meddai Tomos: “Hon fydd fy nhrydedd flwyddyn ac rwy’n mwynhau’n arw. Rwyf wrth fy modd yn canu a bod ymysg ffrindiau. Rwyf wedi cael rhai profiadau anhygoel hefyd fel canu yn Stadiwm y Mileniwm yn yr ŵyl cyn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd i Wlad Belg, sef ein taith dramor gyntaf. Mae fy mam, Angharad, a fy nhad Jason, yn dilyn y côr ac yn teithio i ble bynnag rydym yn perfformio er nad yw fy chwaer, Tesni, mor frwd!”
Ychwanegodd Tomos, sydd am fod yn swyddog heddlu: “Mae’r grant gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd mor bwysig ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo. Mae’n golygu y gallwn barhau i ganu a pherfformio fel côr. Mae canu yn rhywbeth rwy’n credu y byddaf yn ei wneud am byth.”
Ar ôl yr ymarfer, dywedodd Arfon Jones: “Mae Only Boys Aloud yn brosiect unigryw sydd o gymorth ac o fudd i lawer o fechgyn yn eu harddegau yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig gogledd Cymru.
“Rwy’n falch iawn bod yr arian rydym wedi gallu ei ddyfarnu i Only Boys Aloud yn cael ei ddefnyddio i helpu’r bobl ifanc ymroddedig yma i wireddu eu potensial. Mae’n wych eu bod yn mynd draw i Wlad Belg ym mis Tachwedd a pherfformio ger Porth Menin a bedd Hedd Wyn.
Mae’r côr yn wirioneddol yn glod i ogledd Cymru, eu rhieni a’u cymunedau. Rwy’n falch iawn o’r ffaith o ymroddiad y bechgyn hyn sy’n dod draw i’r ymarferion o wythnos i wythnos.”
Yn ôl Eleri Watkins, rheolwr prosiect Only Boys Aloud yng ngogledd Cymru, roedd y grant Eich Cymuned Eich Dewis yn hanfodol i dalu am yr ymarferion wythnosol.
Meddai: “Mae Only Boys Aloud yn brosiect a ddechreuwyd gan Tim Rhys-Evans MBE yn ne Cymru chwe blynedd yn ôl. Cafodd y côr lwyddiant anhygoel gan orffen yn drydydd yng nghystadleuaeth Britain’s Got Talent yn 2012. Nid oes unrhyw glyweliad na thâl aelodaeth.
“Yna penderfynwyd dechrau corau yng ngogledd Cymru a dwy flynedd a hanner yn ôl, ffurfiwyd pedwar côr yn Y Rhyl, Wrecsam, Caergybi a Chaernarfon. Ers hynny rydym wedi mynd o nerth i nerth.”
Mae gennym gymysgedd go iawn o aelodau o gefndiroedd amrywiol. Daw rhai bechgyn atom ni sy’n dioddef gor-bryder, iselder ac sy’n wynebu pob math o broblemau gartref ac yn yr ysgol.
Ond maen nhw’n mynd dod ymlaen yn dda efo’i gilydd ac maen nhw fel un teulu mawr. Daw’r bechgyn draw bob wythnos i ymarfer. Maen nhw am gymryd rhan go iawn ac nid dim ond canu, maen nhw’n dysgu sgiliau bywyd ac yn cael profiadau anhygoel.”
Ychwanegodd: “Bydd hi’n brofiad emosiynol a chyffrous iawn ymweld a chanu ger Porth Menin yn Ypres a byddwn hefyd yn canu wrth ymyl bedd Hedd Wyn.
“Mae’n ymdrech ddrud ac rydym wedi bod wrthi’n galed yn codi arian fel y gallwn ariannu’r daith i Wlad Belg. Dyna pam mae grantiau fel yr arian gan y Comisiynydd Heddlu a PACT mor bwysig.
A dweud y gwir ni fyddem yn gallu gweithredu heb gefnogaeth Mr Jones, PACT a’n noddwyr eraill.”
Dywedodd Dave Evans, rheolwr prosiect PACT: “Mae’r grant o £5,000 yn cynnwys arian cronfeydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ei hun ac mae’r 50 y cant arall yn dod o’r Ddeddf Elw Troseddau.
“Roeddwn wrth fy modd gallu mynd draw gydag Arfon Jones i weld y côr yn ystod yr ymarfer. Mae’n anhygoel gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r grant yn ei gael ar y bechgyn hyn a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i’w bywydau.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Aloud, Tim Rhys-Evans: “Roeddwn i’n ymarfer gydag Only Boys Aloud un diwrnod pan feddyliais am y digwyddiadau i goffáu canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mi wnes i sylweddoli bryd hynny, mai bechgyn fel y rhai o’m blaen, llanciau yng nghanol eu harddegau, oedd yr union fath o fechgyn a gafodd eu lladd yn enw rhyfel bryd hynny.
Pe baen nhw’n byw 100 mlynedd yn ôl, gallai unrhyw un o fechgyn hyfryd Only Boys Aloud fod wedi mynd drwy’r uffern hwnnw ac, yn ôl pob tebyg, ni fyddai lawer ohonynt wedi dod adref.
“Rwy’n siŵr na fyddai’r miloedd o fechgyn Cymreig a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dychmygu, ganrif yn ddiweddarach, y byddai cannoedd o bobl ifanc yn eu harddegau o Gymru yn teithio i’r fan lle y cawsant eu lladd er mwyn galaru amdanynt mewn cân.
Rwy’n gobeithio y bydd y genhedlaeth nesaf hon yn trosglwyddo’r angen i ni beidio ag anghofio, er mwyn i ni beidio â wynebu tywyllwch o’r fath fyth eto.”
Dywed un arall o aelodau’r côr, Harrison Daly, 16 oed o’r Rhyl, sy’n mynychu Ysgol Uwchradd y Rhyl bod ymuno ag Only Boys Aloud wedi bod yn brofiad anhygoel.
Dywedodd: “Mae fel bod mewn un teulu mawr. Rydym yn edrych allan am ein gilydd ac yma gallaf fod yn fi fy hun a phwy rydw i eisiau bod. Rwy’n teimlo’n gyfforddus ymysg aelodau eraill y côr.
“Rwyf bob amser wedi hoffi canu ac, fel Tomos, rwyf wedi bod gyda’r côr o’r dechrau. Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn anhygoel ac mae mynd i Wlad Belg yn mynd i fod yn wych. Mae fy mam a nhad Sharron a Stephen yn ceisio mynychu pob perfformiad.
Mae Gwlad Belg, a Phorth Menin yn mynd i fod yn brofiad emosiynol iawn ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato.”
Ychwanegodd: “Wrth gwrs, ni allem wneud hanner cymaint â hyn heb gefnogaeth pobl fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Mae’r grant yn wych.”
Dywedodd Joseff Wilks, 16 oed o Lansannan, Conwy, sy’n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, bod ymuno ag Only Boys Aloud wedi rhoi cyfle mawr iddo wneud ffrindiau newydd.
Meddai: “Mae gen i ffrindiau yn y côr sy’n rhannu fy niddordebau. Nid wyf yn teimlo fy mod i’n cael fy eithrio na chael fy ngadael allan. Rydym i gyd yn ffrindiau ac yn rhannu cariad at ganu.
Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y daith i Wlad Belg, mae’n mynd i fod yn anhygoel. Mae fy rhieni, Dawn a Martyn yn ceisio mynd i gymaint o gyngherddau â phosib, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n gallu dod draw i Ypres hefyd.”
Ychwanegodd: “Yn ein blwyddyn gyntaf roedd hi’n dipyn o ymdrech cael digon o arian ac roeddem i gyd yn poeni’n arw, ond mae’r grant gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd mor bwysig a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Dywed Youssef Rhouni, 15 oed, o’r Fflint, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd y Fflint, bod ymaelodi gydag Only Boys Aloud wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd iddo.
Dywedodd: “Rwyf wedi ennill hyder a dysgu gwaith tîm. Rwyf wrth fy modd yn canu ac rwy’n meddwl y byddaf bob amser mewn côr os gallaf, er fy mod eisiau dilyn gyrfa mewn meddygaeth. Mae fy mam, Karen, yn ceisio mynd i gymaint o gyngherddau ag y gall hi.
Bydd mynd i Wlad Belg yn anhygoel ac mae’r grant gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn wych ac yn help mawr i ni.”
Ychwanegodd: “Rwyf hefyd wedi bod gydag Only Boys Aloud o’r dechrau a mwynhau’r ymarferion wythnosol a pherfformio mewn cyngherddau a digwyddiadau. Mae bod yn aelod o gôr wedi rhoi llawer iawn i mi ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.”