Bydd etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) yn cael ei gynnal ar 2 Mai 2024.
Rôl y CHTh yw goruchwylio'r heddlu yng Ngogledd Cymru a sicrhau bod anghenion cymunedol yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl.
Mae gan y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd, sef:
- Gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru
- Penderfynu ar y gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru
- Dal y Prif Gwnstabl yn atebol.
- Gwrando ar farn y cyhoedd ynglŷn â phlismona.
Mae'r broses etholiadol yn dechrau gydag ymgeiswyr yn cynnig eu hunain ar gyfer y rôl. Yna mae'r ymgeiswyr yn ymgyrchu yn yr wythnosau yn arwain at ddiwrnod yr etholiad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr yn yr etholiad drwy ddilyn y ddolen hon: https://choosemypcc.org.uk/ (gwefan Saesneg)
Ar 2 Mai 2024, gall pleidleiswyr fynd i orsafoedd pleidleisio i fwrw eu pleidlais dros eu hymgeisydd CHTh o ddewis. Ar ôl i'r bleidlais gau, caiff y pleidleisiau eu cyfrif a'u dilysu a'r ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill yr etholiad.
Wedi eu hethol, bydd y CHTh newydd yn cael eu henwi'n swyddogol ac yn tyngu llw, yn barod i gymryd eu swyddi a gwasanaethu am dymor o 4 blynedd gan lunio blaenoriaethau plismona. Yna byddant yn dechrau ffurfio, ymgynghori ac yna gweithredu eu Cynllun Heddlu a Throsedd ar ôl yr etholiad.
Heb gofrestru i bleidleisio? Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y gofrestr etholiadol er mwyn i chi allu pleidleisio yn yr etholiad.
Gwyliwch y cyflwyniad defnyddiol hwn i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a’r broses etholiadol yma:
Rydym wedi cynhyrchu canllaw ar rôl Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a sut maent yn gweithredu. Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy:
Mae fersiwn darllen hawdd o’r canllaw hwn hefyd ar gael i’w ddarllen trwy glicio ar y ddolen isod: