Dyddiad
Mae rhaglen i roi cyfle i bobl ifanc sydd difreintiedig yn Sir y Fflint i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi derbyn hwb o £10,000 gan gronfa arbennig o arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr yng Ngogledd Cymru.
Bwriad y grant yw brwydro yn erbyn bygythiad Llinellau Cyffuriau yn Sir y Fflint sy'n gweld pobl ifanc sy’n agored i niwed yn cael eu recriwtio gan gangiau y dinasoedd mawr i ddosbarthu cyffuriau ledled Gogledd Cymru.
Mewn 18 mis, mae dros 4,000 o bobl wedi mynychu'r prosiect yn Sir y Fflint yn y sesiynau sy’n cael ey cynnal naw gwaith yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn mewn chwe lleoliad ledled y sir gan Aura Cymru, y sefydliad newydd sydd wedi cymryd lle adran Hamdden a Llyfrgelloedd Cyngor Sir y Fflint.
Mae Aura, cwmni menter gymunedol dielw, wedi rhedeg y gwasanaethau hynny o Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy am y 18 mis diwethaf ac mae Rhaglen Ymgysylltu â'r Gymuned Sir y Fflint eisoes yn gallu dangos gostyngiadau sylweddol mewn tanau bwriadol a throseddau eraill yn yr ardaloedd lle mae'n gweithredu.
Daw’r grant o gronfa arbennig sydd wedi cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd â chyfanswm o £61,901 ynddi eleni.
Mae'r wobr i Aura yn un o ddau gyfraniad mawr a neilltuwyd yn benodol i ymladd bygythiad Llinellau Cyffuriau, sy'n cynnwys gangiau cyffuriau o ddinasoedd mawr fel Lerpwl, Manceinion a Birmingham yn manteisio ar blant a phobl ifanc agored i niwed yng Ngogledd Cymru.
Mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi, eu hudo a'u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgarwch anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.
Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.
Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.
Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.
Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.
Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.
Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.
Dywedodd Dan Williams, Cydlynydd Ysgolion a Chwaraeon Cymunedol Aura: “Rydym wedi bod yn cynnal sesiynau chwaraeon gyda'r nos am ddim i bobl ifanc er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc a'u haddysgu am ddewisiadau bywyd a materion a allai fod yn fygythiad iddynt.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru ac yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i gyrraedd pobl ifanc a allai elwa o'r gweithgareddau hyn.
Rydym hefyd yn eu defnyddio fel cyfle i gyfeirio cyngor a gwasanaethau sydd ar gael iddynt i’w helpu i gadw allan o drwbl ac rydym yn annog Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu lleol i alw i mewn i gwrdd â'r bobl ifanc.
Er mwyn eu gwobrwyo, rydym wedi darparu gweithgareddau ychwanegol fel ymweliadau â pharc trampolîn Freedome yn Ellesmere Port ac i gêm Everton ym Mharc Goodison.
Hyd yn hyn mae'r mwyafrif o'r rhai a gymerodd ran wedi bod yn fechgyn rhwng 11 a 18 oed ac mae'r chwaraeon dan sylw wedi cynnwys pêl-droed, pêl-fasged, rygbi, chwaraeon ar olwynion, sglefrio iâ, ond rydym yn awyddus i estyn allan at ferched a darparu sesiynau amgen tebyg i therapi harddwch.”
Mae'r sesiynau wedi cael eu cynnal yn Saltney, yr Wyddgrug, y Fflint, Penarlâg, Treffynnon ac mae Aura hefyd yn gobeithio cyflwyno'r rhaglen i rannau eraill o'r sir.
Ychwanegodd Dan Williams: “Ni all llawer o'r bobl ifanc hyn fforddio ymuno â chlybiau prif ffrwd ac mae'r rhaglen hon yn darparu ffordd allan iddyn nhw.
Rydym yn ddiolchgar iawn I’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am ddarparu'r arian hwn sy'n hwb aruthrol i ni allu parhau a datblygu'r gwasanaeth hwn.”
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.
Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.
Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.
Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus
Fel rhan o hyn, rwy’n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau - ffurf filain o droseddu sy’n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a’u troi at fywyd o droseddu sy’n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.
Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.
Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”
Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.
“Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.
Mae’r rhai sy’n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i’w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae’n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi’i wneud o droseddau.
Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.
Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da gaiff ei ddefnyddio i bwrpas adeiladol.”