Dyddiad
Mae grŵp o gyn-filwyr penderfynol am fwrw ymlaen i adfer mynwent ryfel sydd wedi dirywio i anrhydeddu’r cof am 48 o arwyr a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda chymorth arian a atafaelwyd gan droseddwyr.
Daeth y cyn-filwr Keith Jones, 63 oed, ynghyd â chwech o gyn-filwyr eraill at ei gilydd i adfer y fynwent yn Eglwys Sant Peblig yng Nghaernarfon sydd wedi ei hagru gan lwyni wedi gordyfu, graffiti, sbwriel a hyd yn oed cerrig beddi wedi’u malu.
Aeth y gwirfoddolwyr, sy’n amrywio o ran oedran o 50 i 80 oed, ati i weithio yn y cyfnod clo cyntaf ac maent wedi bod yn defnyddio eu hoffer a’u gwaith caled eu hunain i dorri mieri a llwyni a chael gwared ar graffiti.
Yn awr mae eu hymdrechion wedi cael eu hatgyfnerthu gan grant o £2,500 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a fydd yn talu am gost offer torri newydd, llafnau newydd i’w hoffer a thanwydd ar gyfer peiriannau.
Cefnogir menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 23 oed eleni.
Dyma wythfed flwyddyn y cynllun dyfarnu arian ac mae llawer o’r dros £280,000 a roddwyd i achosion haeddiannol yn yr amser hwnnw wedi'i atafaelu trwy'r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a gymerwyd oddi wrth droseddwyr gyda'r gweddill yn dod gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Mae’r cynllun wedi’i anelu at sefydliadau sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Arfon Jones.
Eleni rhoddir 21 o grantiau gyda thros 32,000 o bleidleisiau yn cael eu bwrw i benderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus gyda Mynwent Llanbeblig yn un o dri enillydd yng Ngwynedd, ynghyd â Chlwb Criced Caernarfon a Chyfeillion Wern Mynach yn Abermaw, yn derbyn £2,500 yr un.
Mae'r clwb criced yn bwriadu adfer cae artiffisial a gafodd ei ddifrodi gan losgi bwriadol a fydd yn eu galluogi i barhau â sesiynau hyfforddi a bwrw ymlaen â thwrnamaint ysgolion yr haf hwn, ac mae Cyfeillion Wern Mynach yn datblygu gardd fwyd a synhwyraidd a man chwarae cymunedol.
Mae'r fynwent yn cynnwys tua 2,500 o feddau gan gynnwys gweddillion 48 o filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a fu farw yn ystod y blynyddoedd rhwng 1914 a 1918.
Roedd y rhan fwyaf o'r beddau rhyfel hanesyddol wedi mynd yn anhygyrch oherwydd prysgwydd wedi tyfu'n wyllt. Roedd graffiti, cerrig beddi wedi torri a nodwyddau wedi'u defnyddio hefyd yn frith yn yr ardal.
Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, cychwynnodd y cyn-filwyr, ynghyd â thîm o 20 o wirfoddolwyr, ar y dasg enfawr o glirio un cornel o'r fynwent.
Yn awr, gyda chymorth grant o gronfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, maent yn gobeithio clirio a gwarchod gweddill yr ardal erbyn yr haf nesaf.
Dywedodd Mr Jones, a wasanaethodd yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rhwng 1974 a 1997: “Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Comisiynydd am y cyllid hwn. Bydd yr arian yn mynd tuag at brynu offer diogelwch, tanwydd ar gyfer y peiriannau a phethau fel sgipiau os bydd eu hangen arnom.
“Mae gennym ni’r offer ein hunain ond mae llafnau’r strimwyr yn dechrau mynd felly bydd angen i ni osod llafnau newydd yn rheolaidd ac mae angen sawl berfa, rhaw a rhyw fath o gaban arnom hefyd i’w storio.
“Hyd yma, rydyn ni i gyd wedi bod yn mynd i’n pocedi ein hunain i brynu’r hyn sydd ei angen arnom. Rydyn ni'n gwneud y cyfan â llaw a thrwy wirfoddolwyr.
“Rydyn ni’n galw ein hunain yn y Saith Rhyfeddol – y Magnificent Seven! Rydyn ni'n mynd ati’n ddigon hamddenol ond a dweud y gwir dydy'r tywydd ddim wedi bod ar ein hochr ni.
“Ar ôl gweld yr hysbyseb am gyllid, mi wnes i, y cadeirydd a’r is-gadeirydd greu pwyllgor ffurfiol gyda’r pedwar cyn-filwr arall yn aelodau pwyllgor ac roeddem yn falch iawn fod ein cais am grant wedi cael ei dderbyn.”
Dywedodd y taid i chwech o Gaernarfon, iddo sylweddoli cyflwr y fynwent gyntaf pan ddychwelodd adref o'r Fyddin yn 1997.
Dros y blynyddoedd, dirywiodd y safle ymhellach nes i Mr Jones a grŵp o gyn-filwyr benderfynu ei bod yn bryd gwneud rhywbeth yn ei gylch.
“Roedd y safle wedi cael ei esgeuluso’n fawr. Pan wnaethon ni archwilio’r safle’n wreiddiol, roedd rhywun wedi creu lle cyffuriau cudd ac wedi byw ynddo yng nghanol y fynwent,” meddai.
“Mi ddaethon ni ar draws digon o ganiau cwrw gwag, poteli, nodwyddau a phob math o bethau felly o dan yr holl rwbel, ond ers i ni fod yn clirio'r ardal, rydyn ni wedi sylwi nad oes unrhyw ganiau, poteli na nodwyddau newydd o gwbl.
“Roedd yn bwysig iawn i ni ei lanhau, nid yn unig ar gyfer y beddau rhyfel ond allan o barch at yr holl 2,500 o bobl a gladdwyd yma.
“Mi wnaethon ni rannu’r fynwent yn saith ardal sgwâr ac mi wnes i dynnu'r map allan. Mi ddechreuon ni ym mis Awst a gorffen ym mis Medi pan ddechreuodd y tywydd newid.
“Roedd ganddon ni 20 o wirfoddolwyr yn y cam cyntaf ond mae hynny wedi gostwng i saith oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y tywydd yn gwella i gael mwy o wirfoddolwyr yn ôl.”
Mae'r gwirfoddolwyr yn defnyddio rhisgl wedi'i rwygo i leinio llwybr newydd o amgylch y beddau rhyfel, sydd wedi'i baratoi â phlastig i atal chwyn rhag aildyfu.
Ar Sul y Cofio mi wnaeth y cyn-filwyr gynnal gwasanaeth coffa gyda ficer lleol a chaplan o’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn bresennol.
“Rydyn ni'n gobeithio ennyn balchder yn y gymuned,” meddai Mr Jones, sydd â phedwar o blant sydd wedi tyfu i fyny.
“Rydyn ni wedi cael ymateb gwych - mi wnaeth hyd yn oed Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, a oedd yn helpu rhywun o Stockport i ddod o hyd i fedd perthynas, gysylltu efo ni.
“Daeth y perthynas draw i ymweld â’r bedd ond doedden nhw ddim yn gallu cyrraedd y bedd oherwydd cyflwr y fynwent. Dyma'r union reswm pam rydyn ni'n gwneud hyn.
“Pan rydych chi'n cerdded o amgylch y dref mae pobl yn dweud ‘Da iawn Keith, ti'n gwneud gwaith gwych'. Mae hynny'n mynd yn bell ac mae'n braf teimlo eich bod chi'n cael eich gwerthfawrogi."
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: “Y llynedd mi wnaethon ni ofyn am geisiadau a oedd yn anelu at adeiladu cymunedau cydnerth ac eleni rydym wedi parhau â'r thema honno gyda phrosiectau sy'n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd - gan gynnwys cynigion sy'n mynd i'r afael â thueddiadau troseddol sy'n dod i'r amlwg fel Llinellau Cyffuriau a Throsedd Cyllyll.
“Mae wedi bod yn flwyddyn hynod heriol i ni i gyd ond rwy’n falch iawn bod fy nghronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ledled y Gogledd am yr wythfed flwyddyn.
“Mae'r gronfa unigryw hon yn caniatáu i'n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol trwy ein system bleidleisio ar-lein a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn talu sylw penodol i'r pwyntiau hynny sydd wedi'u nodi fel rhai hanfodol gan y cyhoedd, gennyf i ac yn wir gan yr heddlu eu hunain.
“Rwy’n anelu at sicrhau bod ffocws clir yn parhau o amgylch troseddau llinellau cyffuriau - math arbennig o ddieflig o droseddu sy’n ecsbloetio’r ifanc a’r bregus ac rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn anelu at gefnogi ein pobl ifanc.
“Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, a helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn rhai o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â nhw yn y DU.”
Ychwanegodd cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Mae eich cymuned eich dewis yn ffordd werthfawr iawn o gefnogi cymunedau a rhoi’r dewis o ba brosiectau sy’n cael eu cefnogi yn eu dwylo nhw.
“Mae'n broses ddemocrataidd iawn a dyna pam rwy'n credu ei bod wedi bod yn gynllun mor hirhoedlog a llwyddiannus.
“Mae'n brosiect hyfryd i fod yn rhan ohono a gallwch weld yn uniongyrchol y budd o'r arian wrth gryfhau ein cymunedau.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: “Mae'r arian hwn yn cynnwys arian parod o asedau a atafaelwyd gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges arbennig o allweddol oherwydd trwy broffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chyda chefnogaeth y Llysoedd, rydym yn gallu taro'r troseddwyr lle mae'n brifo - yn eu pocedi.
“Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddu difrifol gan gynnwys troseddau sy’n croesi ffiniau, lladrad arfog, defnydd troseddol o ynnau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.
“Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant hwn gyda gwybodaeth leol yn cael ei rhoi i’n swyddogion sy’n ein helpu i ddod â’r troseddwyr hyn o flaen eu gwell.
“Mae'n anfon neges gadarnhaol iawn bod arian a gymerwyd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian gwael yn arian da sy'n cael ei ddefnyddio at bwrpas adeiladol.”