Dyddiad
Mae dirprwy gomisiynydd heddlu a throsedd newydd Gogledd Cymru wedi addo ehangu'r frwydr yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol.
Gwnaeth Wayne Jones, sy’n gyn Dditectif Brif Uwcharolygydd, yr addewid ar ôl i’w benodiad gael ei gadarnhau heddiw (dydd Llun, Medi 20) gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Ef oedd yr ymgeisydd a ffafriwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin, a gafodd ei ddewis ar ôl proses ddethol agored, drylwyr a thryloyw.
Mi wnaeth Mr Jones, 50 oed, ymddeol o’r heddlu ym mis Mawrth eleni ar ôl gyrfa ddisglair ar draws 30 mlynedd lle bu’n arwain cyfres o ymchwiliadau llwyddiannus uchel eu proffil.
Yn ei gyfnod gyda’r heddlu llwyddodd i gyrraedd Lefel 3 yn y Gymraeg ac mae Mr Jones wedi ymrwymo i gael gwersi yn yr iaith i ddod yn fwy rhugl, ynghyd â’r comisiynydd sydd hefyd yn dysgu Cymraeg.
Meddai: “Rwy’n falch iawn bod fy mhenodiad wedi’i gadarnhau ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio fel dirprwy Andy fel y gallwn wneud Heddlu Gogledd Cymru yn wasanaeth heddlu hyd yn oed yn well.
“Yr hyn a’m denodd yn arbennig i’r swydd hon oedd y ffaith bod ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn cyd-fynd, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i ymgymryd â’r rôl fel y gallwn wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel fyth i fyw a gweithio ynddo.
“Mae yna lawer i’w wneud o ran cryfhau plismona cymdogaeth mewn cymunedau ledled y Gogledd. Mae gennym sylfaen gref a gallwn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i wneud.
“Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r troseddau treisgar a chyfundrefnol mwyaf difrifol oherwydd eu heffaith niweidiol ar gymunedau.
“Yn ogystal â’r delio mewn cyffuriau a’r trais a ddaw gyda hynny, mae’r gangiau hyn yn manteisio ar bobl fregus - eu cael i gylch dieflig o ddyled, gan weithiau gymryd drosodd eu cartref a defnyddio trais a bygythiadau i’w gorfodi i ddelio mewn cyffuriau.
“Rwy’n hollol ymroddedig i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol ym mhob ffordd y maen nhw’n amlygu eu hunain, gan gynnwys cam-fanteisio troseddol a chaethwasiaeth fodern yn ei holl ffurfiau.
Yn ei gyfnod gyda Heddlu Gogledd Cymru bu Mr Jones yn allweddol wrth sefydlu nifer o fentrau arloesol gan gynnwys Tîm Ymchwilio Ar-lein yr Heddlu (POLIT), a thîm Onyx ar gyfer Camfanteisio Rhywiol ar Blant (CSE).
Ychwanegodd Mr Jones: “Rwyf hefyd yn poeni’n fawr am fynd i’r afael â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant.
“Mae pedoffiliaid bob amser yn chwilio am gyfleoedd i gymryd mantais ar blant naill ai trwy droseddu cyswllt neu droseddu ar-lein.
“Mae llawer o’r troseddau hyn yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig. Yn aml gall troseddwyr fod yn hysbys i'r dioddefwr fel ffrind neu berthynas a byddan nhw’n manteisio ar y sefyllfa honno o ymddiriedaeth ac yn cam-drin y dioddefwr ac yn bwlio a cheisio cael y dioddefwr i gadw’n dawel. Gyda phlant yn treulio llawer iawn o amser ar-lein gallan nhw hefyd gael eu targedu gan droseddwyr sy'n smalio bod yn rhywun arall.
“Mae'n hanfodol felly ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth trwy'r amser gyda phlant i ddweud bod hyn yn anghywir, ac na ddylent dyfu i fyny efo hyn - felly mae addysg yn chwarae rhan wirioneddol allweddol ar oed ifanc.
“Fel Andy, rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac rwy’n wirioneddol hyderus yn narpariaeth iaith y tîm oherwydd bod 75 y cant o’r staff yn siaradwyr Cymraeg rhugl.”
Dywedodd y Comisiynydd Dunbobbin: “Rwy’n ddiolchgar i Banel yr Heddlu a Throsedd am gadarnhau penodiad Wayne.
“Bydd ei arbenigedd a’i wybodaeth fanwl am blismona modern yn mynd i fod yn amhrisiadwy wrth i ni weithio gyda’n gilydd i graffu ar Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod yr heddlu’n dod hyd yn oed yn fwy effeithlon ac effeithiol.”