Dyddiad
Mae pennaeth heddlu wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed ar ôl cadarnhau cynnydd o 17c yr wythnos yng nghost plismona yn y rhanbarth.
Bydd yr arian ychwanegol yn talu am 43 o swyddogion a staff ychwanegol yn ogystal â diogelu swyddi 15 o heddweision yng ngogledd Cymru.
Heddiw (dydd Llun, Ionawr 22), cefnogwyd y cynnydd o 3.58 y cant a gynigiwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Dyma fydd y cynnydd isaf yn elfen blismona’r dreth gyngor ymysg pedwar gwasanaeth heddlu Cymru a bydd gyda’r isaf yn y 43 gwasanaeth heddlu ar draws Cymru a Lloegr.
Hyd yn oed ar ôl y cynnydd, bydd perchenogion cartrefi Band D yn talu llai na £5 yr wythnos tuag at blismona yn y dreth gyngor.
Dangosodd arolwg ar-lein a gynhaliwyd gan Mr Jones bod 60 y cant o dalwyr y Dreth Gyngor a ymatebodd o blaid cynnydd o dri y cant neu fwy.
Cymerodd dros 1,300 o bobl ran yn yr arolwg, sef cynnydd o 33 y cant yn nifer y bobl a gymerodd ran o’i gymharu ag arolwg tebyg a gynhaliwyd y llynedd.
Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu: “Roedd yn hollbwysig ein bod yn gosod y praesept ar y lefel gywir er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon a oedd ar yr un pryd yn ddarbodus yn ariannol ac yn cyflenwi gwerth am arian.
Yn y dyddiau hyn o leihad yng ngwariant yr heddlu, mae’n rhaid i ni dargedu ein hadnoddau’n ofalus a phennwyd y cynnydd yn y praesept gyda hynny mewn golwg.
Rwyf wedi gweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl a thrafod gydag ef pa lefel o gyllideb oedd ei angen arno i gyflawni blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
Bydd y cynnydd yn ein galluogi i gyflogi 43 o bobl newydd ychwanegol eleni ar ben y 46 a recriwtiwyd y llynedd.
Mae fy ngweledigaeth ar gyfer plismona gogledd Cymru yn seiliedig ar leihau bygythiad, perygl a niwed trwy adnabod y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i’w hamddiffyn.
Mae tri o’r pum blaenoriaeth yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd wedi eu seilio ar helpu pobl sy’n agored i niwed ac mae’r cynllun hefyd yn adlewyrchu’r newid sydd wedi bod mewn plismona gyda throseddau yn dod i’r amlwg bellach sydd yn aml yn fwy cudd eu natur, fel caethwasiaeth modern a masnachu mewn pobl a cham-fanteisio ar blant yn rhywiol, gyda’r bygythiad a welir gan bedoffiliaid ar-lein.
Datblygwyd cynllun rhanbarthol amlasiantaeth beth amser yn ôl er mwyn ceisio delio â cham-fanteisio ar blant yn rhywiol.
Bydd y tîm Onyx a sefydlwyd gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r troseddau ffiaidd hyn yn parhau i ddatblygu eu gwaith ymhellach.
Byddaf yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i roi’r flaenoriaeth ddyledus i ddiogelu’r plant hyn.
Yn ogystal, byddwn yn cynyddu nifer y rhaglenni ar gyfer troseddwyr er mwyn lleihau aildroseddu ac erledigaeth barhaus.
Blaenoriaeth arall yw datblygiad cyson y Tîm Ymchwilio Pedoffiliaid ac Ar-lein (POLIT) wrth adnabod troseddwyr sy’n cam-fanteisio ar blant yn rhywiol, gan gynnwys rhai sy’n cael mynediad at ddelweddau anweddus o blant drwy’r rhyngrwyd a gweithio amlasiantaeth effeithiol i ddiogelu plant sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai mewn perygl.
Rwy’n falch ein bod ni’n buddsoddi cymaint o adnoddau mewn mynd i’r afael a chamfanteisio’n rhywiol ar-lein oherwydd gofal plant yw’r peth pwysicaf a wnawn.
Rwy’n falch iawn o gefnogi’r heddlu wrth ddarparu cymaint o adnoddau a phosib i sicrhau bod plant, lle bynnag y byddant yn y byd, yn ddiogel.
Y nod yw sicrhau cynnydd mewn adrodd am gam-drin rhywiol a cham-drin yn y cartref trwy roi’r hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen.
Byddwn yn darparu gwell gwasanaeth yn gyffredinol i ddioddefwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin yn y cartref a cham-drin rhywiol ac rwyf am i fwy o droseddwyr ddod o flaen eu gwell er mwyn iddynt allu ateb am eu troseddau ffiaidd.”