Dyddiad
"Heddiw, wrth i ni nodi Diwrnod Stephen Lawrence a'r 29 mlynedd ers ei lofruddiaeth drasig ac ofnadwy ar 22 Ebrill 1993, rydym yn cofio bywyd, marwolaeth a gwaddol Stephen a gwaith ymgyrchu urddasol ei deulu a'i ffrindiau, sydd i gyd wedi arwain at newid mawr am hawliau gwell ledled ein gwlad. Roedd marwolaeth Stephen yn drobwynt yn y berthynas rhwng yr Heddlu a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y DU. Gwnaeth Adroddiad Macpherson, a ddilynodd yn 1999, daflu goleuni ar yr hiliaeth sefydliadol a'r anghyfartaledd sy'n effeithio llawer o'n cyd-ddinasyddion.
"Ers hynny, mae llawer o waith wedi'i wneud er mwyn ceisio gwella plismona, ymgysylltu a chynrychioli cymunedau gwahanol ledled y DU. Ond mae llawer eto i'w wneud er mwyn sicrhau fod ein sefydliadau cyfraith a threfn yn cynrychioli ein gwlad heddiw cymaint â phosibl, ac mae hyn yn brif flaenoriaeth i mi fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Yng Ngogledd Cymru, rydym wedi addo gwella hyder ein cymuned Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn yr heddlu a chynyddu cynrychiolaeth ymysg ein swyddogion a staff. Mae 22 Ebrill yn parhau i'n hatgoffa ni gyd y daw newid sy'n bwysig i bawb yn ein cymuned o boen a thrasiedi fawr. Mewn plismona, fel ym mhob man mewn cymdeithas, dylem gofio ac ychwanegu at y gwaddol hwn mewn ffordd adeiladol bob dydd wrth i ni gofio Stephen Lawrence."