Dyddiad
"Bydd yr ychydig wythnosau nesaf yn anodd i gymunedau ledled Cymru wrth i ni geisio trechu amrywiolyn Omicron y Coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym ac wedi cyflwyno mesurau newydd i fynd i'r afael â'r cam diweddaraf hwn ar y pandemig.
"Fel Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill i gadw Cymru'n ddiogel. Ond mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i ddilyn y rheolau a gweithio gyda'n gilydd er budd pawb. Bydd pobl yn gweithio drwy gydol cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i gadw gwasanaethau hanfodol i fynd, ac mae angen iddyn nhw hefyd ddilyn rheolau newydd.
"Mae hynny'n berthnasol i swyddogion yr heddlu, a staff a gwirfoddolwyr yr heddlu, holl weithwyr eraill y gwasanaethau brys, staff mewn siopau, staff sy'n gweithio wrth y drws ac y tu ôl i fariau, gyrwyr tacsi, gyrwyr bysiau a llu o weithwyr eraill, yn ogystal â staff y GIG a gwasanaethau gofal. Beth am i ni gyd gefnogi ein gilydd a bod yn garedig wrth y bobl hynny sy'n gweithio mor galed i'n cadw'n ddiogel.
"Felly gweithiwch gyda nhw, a dangoswch ddealltwriaeth a charedigrwydd wrth iddyn nhw barhau i wneud eu gwaith mewn amgylchiadau anodd tu hwnt. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld beth sy'n bosibl pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd ledled Cymru. Wrth i ni groesawu 2022, a chyda thon newydd o'r pandemig, beth am i ni barhau i fwrw ati i gadw ein teuluoedd, ffrindiau, anwyliaid a chymunedau yn ddiogel ledled Cymru. "
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda I chi gyd