Dyddiad
Mae cyn-yrrwr oedd wedi mynd i drobwll o iselder a phroblem yfed ddifrifol wedi ailadeiladu ei fywyd diolch i elusen digartrefedd.
Roedd pethau mor wael nes bod David Roberts, 41 oed, wedi gorfod cysgu ar y stryd ar ôl i’w fywyd chwalu’n ddarnau – tan i’r elusen Hope Restored o Landudno ddod i’w achub.
I ddangos ei ddiolchgarwch am y ffordd y maen nhw wedi ei helpu i drawsnewid ei fywyd mae David bellach yn gweithio fel gwirfoddolwr yn eu canolfan galw mewn.
Adroddodd ei stori wrth Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a ddaeth ar ymweliad i’r ganolfan sydd wedi ei lleoli yn Eglwys Gymunedol Lighthouse ar Ffordd y Gogarth.
Mae’r elusen yn rhoi cefnogaeth i’r digartref, pobl sydd â phroblemau cyffuriau neu alcohol ac unrhyw un sydd angen cyngor a help llaw.
Maen nhw wedi cael hwb ar ôl derbyn grant o £2,500 gan gronfa arbennig sydd yn defnyddio’r arian a gafodd ei hatafaelu oddi wrth droseddwyr er mwyn helpu grwpiau cymunedol.
Cafodd cynllun Eich Cymuned Eich Dewis ei ddechrau gan Mr Jones, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Heddlu Gogledd Cymru.
Daeth Mr Jones a chadeirydd PACT draw i’r ganolfan i weld sut mae’r arian o’r gronfa yn cael ei wario.
Cafodd yr elusen ei ddechrau gan Brenda Fogg sy’n gwybod sut beth yw bod yn ddigartref, yn llwglyd a heb obaith.
Dywed David nad yw’n gwybod ble fyddai erbyn hyn heb yr help a dderbyniodd gan Brenda a’i gwr, Harvey Fogg.
Dywedodd David, sy’n dod yn wreiddiol o Benmaenmawr: “Roeddwn wedi bod i ffwrdd yn gweithio yn Lincoln. Roeddwn yn gyrru fel bywoliaeth ond roedd gen i iselder a phroblem yfed fawr. Roeddwn yn derbyn fy nghyflog ac yn gwario’r cwbl ar alcohol dros y penwythnos.
“Mi wnes i gyrraedd Llandudno fis Medi y llynedd heb unrhyw beth. Roeddwn yn cysgu ar y strydoedd am ychydig. Clywodd fy mam am Hope Restored ac mi wnaeth hi fy mhwyntio i’r cyfeiriad cywir.
“Mi wnes i fynd draw a siarad efo Alan, y gweinidog, ac mi wnaeth o fy rhoi mewn cysylltiad gyda Brenda. Mi gafodd hi le i mi mewn llety Gwely a Brecwast. Roedd y ffaith bod rhywun yn gwrando ac yn deall wedi fy helpu. Rwyf rŵan yn rhentu fflat.
Ychwanegodd: “Heb os nac oni bai heb help Hope Restored byddwn ar goll yn llwyr. Mae Brenda wedi fy helpu i drawsnewid fy mywyd. Rwyf rŵan yn dod i mewn bob dydd Mawrth a dydd Gwener i wirfoddoli.
“Rwy’n siarad â phobl eraill a helpu lle medraf. Rwyf hefyd yn mynd i Greggs i gasglu rhoddion o fwyd diangen a gwneud bagiau o’r rheiny i’r rhai sydd angen help.”
Dywedodd Mr Jones: “Mae Brenda yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl i ni gyd o’r hyn y gellir ei gyflawni. Mae faint o fwyd, dillad a hyd yn oed gwelyau mae’r elusen yn eu trefnu yn syfrdanol.
“Mae hefyd yn wych, pan mae’r angen yn codi, eu bod nhw’n medru defnyddio’r adeilad fel lloches yn y nos i gysgu wyth o bobl a fyddai fel arall yn rhewi ar y stryd.
“Mae Brenda, ei gwr Harvey a’r tîm o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith ffantastig ac mae’r £2,500 o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis PACT wedi cael ei wario’n dda.
"Beth sy’n fy nharo am Hope Restored yw eu bod nhw’n llwyddo i gyflawni hyn i gyd ar gyfraniadau yn unig heb droi at unrhyw gronfeydd cyhoeddus sy’n beth anarferol hyd yn oed yn y sector elusennol.
"Mae angen canmol y bobl sy’n cyfrannu llawer iawn o fwyd a dillad am eu haelioni a’u hysbryd dinesig.
“Byddwn yn annog mwy o bobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi Hope Restored, elusen sy’n gwneud gwaith gwych gyda phobl fregus.
Roedd David Williams hefyd wedi cael argraff dda o benderfyniad, ymrwymiad ac angerdd Brenda a Harvey Fogg.
Meddai: “Beth sy’n fy nharo yw bod elusennau fel Hope Restored yn medru curo’r system a’r fiwrocratiaeth a chael help i bobl sydd ei angen yn gyflym ac yn y modd mwyaf uniongyrchol.
“Mae Brenda yn deall y problemau ac yn delio gyda nhw. Mae’n medru ffeindio datrysiad a churo’r fiwrocratiaeth sy’n trechu cymaint o bobl. Os oes un ffordd ar gau mae hi’n ffeindio llwybr arall i fynd lawr.”
“Fel cadeirydd PACT rwy’n gwbl fodlon gyda gwerth ein rhodd o £2,500. Gallaf weld bod yr arian wedi mynd yn uniongyrchol i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.”
Esboniodd Brenda ei bod wedi cyrraedd Llandudno gyda dau blentyn ifanc ac wedi dod yn ddigartref ar ôl dianc rhag ei phartner oedd yn ei cham-drin.
Dywedodd: “Mi wnaeth Cymorth i Ferched fy helpu i gael llety Gwely a Brecwast am y nosweithiau cyntaf. Yn y diwedd llwyddais i sicrhau llety rhent ac roedd rhaid i mi lusgo fy hun i ffwrdd o’r llawr.
“Mae’n dangos y gall unrhyw un ddod yn ddigartref. Dyna pam y gwnes i sefydlu Hope Restored saith mlynedd yn ôl gyda fy ngŵr, Harvey, a briodais bedair blynedd yn ôl.
“Rwyf wir yn gwybod sut beth yw bod yn llwglyd a digartref. Rwy’n deall nad oes gan y bobl rwy’n eu gweld unman arall i fynd.
“Rwy’n falch o’r ffaith ein bod wedi helpu dros 500 o bobl sydd rŵan wedi setlo yn eu llety eu hunain. Ac mae llawer o’r bobl rydym wedi eu helpu yn dod nôl yma i weithio fel gwirfoddolwyr a helpu eraill.”
“Rydym yn paratoi tua 25 pryd cynnes bob dydd, bwyd maethlon da fel cinio twrci rhost, pastai’r bugail, pethau fel hynny. Rydym hefyd yn derbyn rhoddion o fwyd yn ddyddiol gan siopau fel Greggs, KFC, Tesco, Subway ac ati.
“Roedd y rhodd a dderbyniwyd gan Eich Cymuned, Eich Dewis wedi golygu ein bod wedi gallu prynu mwy o bebyll a sachau cysgu er mwyn rhoi help llaw i bobl ddigartref. Ond, os ydy hi’n rhy oer rydym yn medru cynnig lle i gysgu i wyth person yma yn Eglwys Gymunedol Lighthouse.
“Mi wnaethon ni brynu ychydig mwy o welyau ar gyfer ein lloches nos a defnyddio peth o’r rhodd hefyd i brynu bwyd i’r rheiny oedd mewn angen dros gyfnod y Nadolig y llynedd. Roedd hyn yn golygu llawer. Nid ydym yn derbyn unrhyw arian gan unrhyw gorff statudol felly rydym yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol.”