Skip to main content

Ffilm bwerus yn rhybuddio pobl ifanc am beryglon dieflig llinellau cyffuriau

Dyddiad

Dyddiad
061020 pcc-3

Mae ffilm bwerus wedi cael ei lansio i rybuddio plant ysgol o beryglon llinellau masnachu cyffuriau trwy ddarlunio bywydau merched yn eu harddegau a gafodd eu rhwydo yn y fasnach ddieflig.

Mae Fi Wyt Ti wedi cael ei gwneud gan y cyn-heddwas a’r cyfarwyddwr ffilm arobryn John Evans mewn arddull nofel graffig neu gomic a bydd yn cael ei dangos fel rhan o ymgyrch fawr mewn ysgolion ledled Cymru.

Cafodd y ffilm ei gwneud ar gyfer yr elusen Canolfan Sain Golwg Arwyddion o Fae Colwyn, gyda grant o £10,000 gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, ac roedd yr arian grant yn defnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr.

Mae Fi Wyt Ti, sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, wedi’i ffilmio mewn tair iaith – Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain, gyda dwy ferch yn eu harddegau o ogledd Cymru yn actio’r prif gymeriadau. Y bwriad yw ei dangos mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled Cymru, ac ar ben hynny mae heddluoedd yn Lloegr hefyd wedi dangos diddordeb mawr yn y ffilm.

Bydd y ffilm yn cael ei defnyddio fel rhan o wers arbennig ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd Blwyddyn 8 sydd wedi cael ei datblygu fel rhan o Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru gyfan, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel SchoolBeat.

Mae'r ymgyrch Cwlwm Twyll yn ymateb i bryder cynyddol ynghylch y ffordd y mae gangiau llinellau cyffuriau creulon yn cymryd mantais o bobl ifanc.

Mae plant mor ifanc â 12 oed yn cael eu gorfodi i weithredu fel negeswyr cyffuriau gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu defnyddio i wneud y cyswllt cychwynnol.

Mae'r ffilm yn olrhain pa mor hawdd y gall pobl ifanc yn eu harddegau syrthio yn ysglyfaeth i fasnachwyr llinellau cyffuriau a chael eu hunain yn gyflym mewn rhwyd o ddyled, trosedd a thrais ond mae hefyd yn cynnig llwybr i ddioddefwyr allan o'r cylch dieflig.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu yng ngogledd Cymru ac yn ymgyrchydd blaenllaw dros newidiadau yng nghyfreithiau cyffuriau’r Deyrnas Unedig: “Mae hon yn ffilm drawiadol iawn sy’n dangos y peryglon y mae pobl ifanc yn eu hwynebu oddi wrth y troseddwyr sy’n rhedeg gangiau llinellau cyffuriau, ac mae llawer ohonynt yn weithgar yng ngogledd Cymru.

“Mae angen ffocws clir ar linellau cyffuriau - math arbennig o ddieflig o droseddu sy'n ecsbloetio pobl ifanc agored i niwed a’u rhwydo i fywyd o droseddu sy'n hynod beryglus a threisgar.

“Mae Fi Wyt Ti yn llythrennol yn dangos mewn modd graffig pa mor hawdd yw hi i bobl ifanc gael eu tynnu i mewn a’u gorfodi i’r bywyd hwn ond yn bwysig iawn mae hefyd yn cynnig llwybr allan o’r hyn a all ymddangos yn sefyllfa anobeithiol.

“Yng ngogledd Cymru mae’r ffaith ein bod mor agos at Lannau Merswy a Gogledd-orllewin Lloegr yn ein gwneud yn arbennig o agored i’r gangiau sy’n rhedeg y gweithgareddau troseddol hyn ac rwyf hefyd yn falch bod y ffilm am gael ei dangos a’i defnyddio gan holl heddluoedd Cymru a’i bod hefyd yn denu diddordeb o dros y ffin.”

John Evans, o Fangor, yw pennaeth cyfryngau a chyfathrebu yn y Ganolfan Sain Golwg Arwyddion a rheolwr gyfarwyddwr y partner cynhyrchu Clecs Media.

Mae'n gyn-filwr a bu’n heddwas yng Nghaergybi cyn gadael yr heddlu i astudio ffilm ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ddiweddarach, gweithiodd ym myd teledu ac enillodd wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS), yn ogystal â chael ei enwebu am wobr BAFTA a Gwobr Cyfryngau Celtaidd.

Mae ei waith wedi ymddangos ar BBC Three ac ar S4C lle tynnodd ei raglen ddogfen gyntaf Cysgod Rhyfel sylw at y problemau oedd yn wynebu pedwar cyn-filwr oedd yn dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Meddai: “Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith yn ymwneud â materion cymdeithasol ac yn aml pobl ifanc yw’r prif gymeriadau.

“Nod y ffilm Fi Wyt Ti yw dangos sut y gall gangiau cyffuriau sy’n gweithredu ledled y Gogledd rwydo plant bregus rhwng 12 a 14 oed a recriwtio pobl ifanc fel negeswyr.

“Mi wnes i ddefnyddio arddull graffig llyfrau comic sy’n gyfarwydd i’r bobl ifanc y mae’r ffilm wedi’i anelu atyn nhw ac roedd angen i’r ffilm fod yn addysgiadol ond ar yr un pryd yn ddifyr a chadw eu sylw ac roedd angen iddo fod yn gryno hefyd.

“Mae'r ffilm yn dilyn taith merch ifanc fel bod y gynulleidfa'n gallu gweld beth aeth o'i le a sut y gallen nhw fynd i'r sefyllfa honno a methu gweld pryd y mae pethau'n dechrau mynd o le.”

Daeth y grant o £10,000 ar gyfer y ffilm o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Arfon Jones trwy'r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT).

Dywedodd Amanda Hanson, Swyddog Atal Trais Difrifol yn Swyddfa’r Comisiynydd: “Dyma’r tro cyntaf y mae pwnc llinellau cyffuriau wedi cael ei drafod fel hyn a’r canlyniad yw ffilm sy’n apelio at bobl ifanc ond sydd hefyd wedi’i datblygu ar gyfer lleoliad addysg gydag adnoddau cysylltiedig.

“Y nod yw i bobl ifanc a’u rhieni ddeall beth yw llinellau cyffuriau a sut y gall pobl ifanc gael eu hecsbloetio ond i ddeall hefyd nad eu bai nhw yw hynny a dangos iddyn nhw ble y gallan nhw gael help a chefnogaeth.

“Mae wedi cael ei dreialu mewn ysgolion yn y Rhyl, Dinbych a Bangor ac wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae bellach yn mynd allan i ysgolion ledled Cymru tra bod heddluoedd ar Lannau Merswy, Swydd Gaer a Swydd Derby hefyd wedi dangos diddordeb ynddi.

“Gall llawer o wersi i bobl ifanc fod ar ffurf PowerPoint ond rydyn ni'n teimlo y bydd hyn yn ymgysylltu â nhw go iawn oherwydd ei fod mewn fformat maen nhw'n gyfarwydd ag ef ond bydd hefyd o ddiddordeb i rieni ac i unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu am bobl ifanc.