Dyddiad
Gwnaed galwad o’r newydd i ddatganoli plismona i Gymru.
Mae Ann Griffith, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi ychwanegu ei llais i'r galw cynyddol am gymryd rheolaeth o'r heddlu oddi wrth lywodraeth San Steffan.
Roedd hi'n siarad yng Nghynhadledd Gweledigaeth Cymru Gyfan ar gyfer Plismona a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Roedd Ms Griffith yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu'r syniad ond mynnodd bod achos llethol bellach dros ddatganoli'r gwasanaeth heddlu.
Dywedodd: "Fe fyddwch yn gwybod ein bod ni, fel grŵp cyfunol o Gomisiynwyr, wedi datgan ein cefnogaeth unfrydol i ddatganoli plismona i Gymru.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud yn gyson na fydd yn datganoli plismona i Gymru, fodd bynnag, mae achos cryf dros wneud hynny.
Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel y gwyddom, eu heddluoedd eu hunain sydd wedi datblygu yn eu ffyrdd arbennig eu hunain. Mae ganddoch chi hefyd fodelau gwasanaethau heddlu Llundain a Manceinion Fwyaf.
Dyma'r amser iawn i ddatganoli plismona i Gymru.
Gellir gwneud yr achos ac mae'r manteision yn glir gan fod cymaint o wasanaethau eisoes wedi eu datganoli.
Maent yn cynnwys amaethyddiaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd a lles cymdeithasol, tai, llywodraeth leol, tân ac achub, iechyd a lles cymdeithasol, y dreth stamp, diwylliant a chwaraeon.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd ond mae’n rhoi syniad o raddfa'r pwerau datganoledig.
Mae diogelwch cymunedol, llywodraeth leol, iechyd a thrafnidiaeth i gyd yn gysylltiedig â phlismona.
Mae yna gorff o gyfraith eisoes a chynllun ehangach ar gyfer diogelwch yn deillio o Fae Caerdydd - y rhan hanfodol sydd ar goll yw plismona.
Beth fydd datganoli plismona yn ei olygu i bobl Cymru? Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn poeni cyn belled â'u bod yn cael gwasanaeth gwerth am arian da.
Ond rydym yn gwybod am y dryswch a'r problemau sy'n aml yn codi oherwydd deddfwriaeth a pholisi sy'n deillio o Lywodraeth Cymru a San Steffan."
Yn ôl Ms Griffith, un o'r ardaloedd hynny oedd yr ardoll brentisiaeth.
Roedd y pedwar heddlu yng Nghymru, meddai, yn talu cyfanswm o £2 miliwn ac roedd hi'n ofni na fyddant yn cael dim byd yn ôl.
Roedd Llywodraeth y DU wedi cytuno ar fargen ariannu ar gyfer yr ardoll arfaethedig i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle byddai pob un o'r llywodraethau datganoledig yn derbyn cyfran o'r arian a delir i mewn ar sail eu poblogaeth.
Roedd Llywodraeth Cymru i fod i ddebryn cyfanswm o bron i £400 miliwn yn ôl dros y tair blynedd nesaf.
Ond oherwydd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am blismona, roedd yna gwestiwn mawr ynghylch a ellid gwario unrhyw arian a dalwyd i mewn gan heddluoedd Cymru, gan gynnwys Gogledd Cymru, ar hyfforddiant swyddogion.
Ychwanegodd Ms Griffith: "Wrth i’r rhaglen llymder frathu mae’r ddwy weinyddiaeth yn ein hatgoffa o oblygiadau gwasanaethau datganoledig a rhai sydd heb eu datganoli - ac mae'r gwasanaeth heddlu yn disgyn rhwng dwy stôl.
Yr hyn sydd ei angen arnom yw datganoli pragmatig er mwyn gwella’r hyn rydym yn ei wneud, oherwydd wedi’r cyfan mae’r mwyafrif o'n hasiantaethau partner wedi cael eu datganoli, yn enwedig y gwasanaethau brys.
Rydym wrth ein bodd bod Prif Weinidog Cymru wedi croesawu ein hymrwymiad i ddatganoli a'n gobaith yw y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni'r weledigaeth a rennir hon.
Mae hon yn dasg bwysig ac ni ddylid amau ei chymhlethdod a'i maint.
Rhaid i ni gymryd amser i ddeall goblygiadau llawn yr hyn y mae datganoli yn ei olygu mewn gwirionedd a beth fydd gofyn i ni ei wneud er mwyn ei weithredu'n effeithiol. Ni ddylid ei ruthro.
Rhaid i ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i adnabod a deall goblygiadau llawn yr hyn sydd ynghlwm fel ein bod ni wedi paratoi'n drylwyr ar gyfer datganoli pan ddaw."