Dyddiad
Datgelwyd bod unigolyn oedd am ymuno â’r heddlu wedi ffonio 999 i wirio cynnydd ei gais i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru.
Clywodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Andy Dunbobbin, ei fod yn un o gyfres o alwadau argyfwng “gwirion” y mae ystafell reoli’r heddlu wedi gorfod delio â nhw.
Yn ôl Mr Dunbobbin, roedd yn wastraff “difrifol ac amlwg” o amser yr heddlu ac yn dargyfeirio adnoddau oddi wrth argyfyngau go iawn, a allai beryglu bywydau.
Dro arall, deialodd merch 999 i ofyn am gymorth yr heddlu i symud ei soffa a oedd wedi mynd yn sownd yn ei chyntedd ar ôl iddi geisio ei symud o'i lolfa i ystafell arall.
Daeth enghraifft arall pan safodd dynes y tu allan i orsaf yr heddlu yn y Rhyl a ffonio’r llinell argyfwng i ofyn am lifft adref ar ôl iddi fethu ag archebu tacsi.
Yn ôl Mr Dunbobbin, mae staff yn yr ystafell reoli yn Llanelwy yn hynod o brysur ac nid oes amser ganddynt i ddelio â galwadau hurt.
Mae'r ganolfan eisoes yn delio ar gyfartaledd â 80,000 o alwadau brys 999 y flwyddyn ac ar gyfartaledd maent yn cael eu hateb o fewn 3.1 eiliad.
Ar ben hynny maent yn delio â 250,000 o alwadau nad ydynt yn alwadau argyfwng, 18,000 o sgyrsiau ar y we a bron i 60,000 o negeseuon e-bost sydd i gyd yn cyfateb gyfartaledd o fwy na 1,100 o gysylltiadau bob dydd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach yn annog pobl i adrodd am faterion nad ydynt yn rhai brys trwy'r wefan www.northwales.police.uk fel y gellir cadw'r llinell 999 yn rhydd ar gyfer argyfyngau.
Dywedodd rheolwr yr ystafell reoli, Paul Shea: “Yn anffodus, rydyn ni’n dal i gael gormod o alwadau gwirion fel yr un gan y ddynes a gafodd ei soffa’n sownd yn y cyntedd.
“Galwad arall sy’n aros yn y cof oedd yr un gan y ddynes efo’r pry cop ar y gwely. Roedd ofn y pry cop arni ac roedd hi eisiau i heddwas ddod i’w symud.
“Nid materion plismona yn unig yw’r rhain ac mae'n cymryd adnoddau gwerthfawr oddi wrth bobl sydd mewn trafferth go iawn.
“Ochr arall y geiniog i hynny yw bod yna bobl eraill a ddylai fod wedi ffonio 999 wnaeth alw'r llinell 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng am nad oedden nhw eisiau ein poeni.
“Hoffwn bwysleisio y dylai pobl ffonio 999 bob amser os ydyn nhw'n dioddef argyfwng iawn.”
Mae Mr Dunbobbin newydd arwyddo siec gwerth £5.8 miliwn i brynu system newydd ar gyfer yr ystafell reoli sy’n uwchraddio technoleg gorchymyn a rheoli bresennol yr heddlu.
Bydd yn cael ei gyflwyno fesul cam ac mae wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'r Rhwydwaith Gwasanaethau Brys (ESN) newydd sydd i'w chyflwyno yn y DU.
Dywedodd Mr Dunbobbin: “Hyd yn oed gyda’r system newydd, ni fydd gennym yr amser i ddelio â’r galwadau gwirion, sy’n gwastraffu amser ac sy’n dargyfeirio adnoddau gwerthfawr yr heddlu ac a allai o bosibl roi bywydau mewn perygl.
“Mae gwneud galwadau am hwyl neu ffonio 999 yn amhriodol ac yn anfaddeuol ac nid yw’n deg. Mae mor syml â hynny.
“Yn amlwg, serch hynny, os yw rhywun yng nghanol argyfwng gwirioneddol, mi ddylen nhw ffonio 999 bob amser.”
Roedd yn neges a ategwyd gan y Prif Arolygydd Mark Williams, Uwch Reolwr Digwyddiadau yr Heddlu.
Meddai: “Yr ystafell reoli yw’r drws ffrynt i blismona i’r mwyafrif o bobl. Mae aelodau o'r cyhoedd sydd angen cysylltu â'r heddlu yn ddieithriad yn dod trwy'r ystafell hon mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.
“Mae galwadau niwsans yn annifyr ond mae yna adegau pan fydd pobl yn gwneud camgymeriadau dilys.
“Efallai nad yw sefyllfa sy’n argyfwng i rai pobl yn argyfwng i rywun arall ac mi fyddwn i’n dweud wrth bobl i’n defnyddio os bydd angen, ond rydym yn cael rhai galwadau gwirion iawn.
“Doedd dim esgus o gwbl i ddarpar heddwas ffonio’r rhif argyfwng i wirio ei gais am swydd. Mae'n amlwg nad oedd yn addas i’r gwaith.
“Ond mae amser yn hanfodol pan fydd argyfwng go iawn. Ein nod yw ateb galwadau 999 o fewn 10 eiliad felly mae ei wneud mewn llai na phedair eiliad yn drawiadol iawn.
“Yn amlwg mae’r rhan fwyaf o’r galwadau hyn yn argyfyngau sy’n peryglu bywyd felly mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cael y person iawn ar ben arall y ffôn yn gyflym iawn fel y gallwn anfon swyddogion heddlu i’r lleoliadau yn gyflym os oes eu hangen.”