Mae'r nifer uchaf erioed o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl wedi dod i'r amlwg yng ngogledd Cymru - gan gynnwys pensiynwyr yn eu 60au a'u 70au.
Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, gwelodd 2019 gynnydd o 60 y cant mewn achosion, o 63 i oddeutu 100, gyda mwyafrif yr achosion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn cael eu gorfodi i werthu cyffuriau gan gangfeistri dieflig Llinellau Cyffuriau.
Ond mae pobl hŷn hefyd yn cael eu targedu gan y gangiau troseddu cyfundrefnol oherwydd eu bod yn agored i niwed am sawl rheswm, gan gynnwys eu hoed, unigrwydd neu anabledd.
Daeth y newyddion yn ystod cyfarfod gyda’r gweithiwr achos caethwasiaeth fodern sydd newydd ei phenodi, Kamille Fijalkowski.
Creodd Mr Jones hanes yn 2017 pan benododd y swyddog cymorth cyntaf yn y DU sy'n ymroddedig i helpu dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
Ms Fijalkowski yw'r ail berson i ddal y swydd arloesol a ariennir gan y comisiynydd ac mae wedi'i lleoli yn y Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr yn Llanelwy sy'n gwasanaethu gogledd Cymru i gyd.
Mae'r ganolfan yn dwyn ynghyd gwasanaethau cymorth Heddlu Gogledd Cymru, Uned Gofal Tystion Gwasanaeth Erlyn y Goron a sefydliad blaenorol Cymorth i Ddioddefwyr.
Mae pob dioddefwr yn derbyn ymateb wedi'i deilwra'n benodol i'w sefyllfa nhw ac mae'r ganolfan hefyd yn cyflogi arbenigwyr ym maes iechyd meddwl a throseddau casineb.
Mae mynd i'r afael â mater "llechwraidd" caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl wedi cael ei wneud yn flaenoriaeth gan Mr Jones, sy’n gyn-blismon, ac mae'n ganolog i'w Gynllun Heddlu a Throsedd sef y prif gynllun ar gyfer plismona'r rhanbarth.
Dywedodd Ms Fijalkowski, 25 oed, sydd wedi graddio mewn athroniaeth ac a arferai weithio i elusen ddigartrefedd Barnabus ym Manceinion, a Chanolfan Merched Gogledd Cymru yn y Rhyl, fod caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn broblem gynyddol.
Meddai: “Mae gangiau Llinellau Cyffuriau o lefydd fel Glannau Merswy a Manceinion yn aml yn defnyddio trais i yrru masnachwyr cyffuriau lleol o’r ardal.
Yn aml mi fyddan nhw’n targedu plant ac oedolion - yn aml rhai â phroblemau iechyd meddwl neu gaethiwed i sylweddau - i weithredu fel rhedwyr cyffuriau neu i symud arian parod fel y gallan nhw aros allan o olwg awdurdodau'r gyfraith.
Mewn achosion eraill bydd y delwyr cyffuriau yn cymryd drosodd adeilad lleol, sydd fel arfer yn eiddo i berson hŷn bregus, ac yn ei ddefnyddio fel canolbwynt ar gyfer eu gweithgaredd troseddol. Gelwir hyn yn ‘gwneud nyth gog’ neu cuckooing.
Yn aml bydd pobl sy'n cael eu hecsbloetio fel hyn yn agored i gam-drin corfforol, meddyliol a rhywiol, ac mewn rhai achosion byddant yn cael eu masnachu i ardaloedd ymhell o'u cartref fel rhan o fusnes delio cyffuriau'r rhwydwaith.”
Dywedodd y Ditectif Ringyll Richard Sidney, o uned gaethwasiaeth fodern Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r ffaith ein bod ni’n gweld cynnydd mor fawr mewn achosion yn newyddion da yn yr ystyr ein bod yn adnabod dioddefwyr nad oeddem yn ymwybodol ohonyn nhw o’r blaen.
Maen nhw'n ddioddefwyr masnach niweidiol erchyll iawn sy'n cael effaith enfawr ar bobl sydd ymysg y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu gorfodi i werthu cyffuriau, mae dioddefwyr eraill caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn cael eu gorfodi i weithio am dâl pitw mewn llefydd golchi ceir, bariau ewinedd, a’r diwydiant lletygarwch.
Rydym hefyd yn gweld camfanteisio rhywiol ac mi arweiniodd Ymgyrch Lenten at euogfarnau mewn perthynas â phobl a oedd yn symud pobl ifanc yn eu harddegau o gwmpas, gan fynd â nhw i westai, gyda’r bwriad o gam-fanteisio arnyn nhw'n rhywiol.
Os gall y dioddefwyr lwyddo i gael eu hunain allan o'r cylch dieflig o gamfanteisio, mae yna 34 y cant o siawns y byddant yn mynd yn ôl i mewn i’r cylch, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael rhywfaint o gefnogaeth dda iawn ar eu cyfer i'w cael allan o'r cylch hwnnw.
Mae'r bobl ieuengaf rydym yn dod ar eu traws yn gyffredinol yn eu harddegau cynnar ond gall yr oedran hwnnw fynd yr holl ffordd i fyny i bobl oedrannus, yn dibynnu ar ba mor agored i niwed yw'r unigolyn.
Y dioddefwr hynaf mewn caethwasiaeth fodern yr ydym wedi dod ar ei draws oedd dyn 73 oed a gafodd ei ecsbloetio am ei lafur, tra gorfodwyd person 66 oed arall i storio cyffuriau ar ôl mynd i ddyled i'r ecsbloetiwr.
Mae’r gangiau’n bygwth pobl â thrais i’w cadw’n ufudd, maen nhw’n bygwth eu teuluoedd â thrais, neu’n achosi difrod i’w heiddo.
Mae yna lawer mwy o ddioddefwyr allan yna, a rhan o’n swyddogaeth ni yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o hynny.
Mae Arfon Jones, y comisiynydd heddlu a throsedd, wedi rhoi blaenoriaeth uchel i'r mater hwn ac mae hynny yn ei dro yn rhoi mwy o rym i ni wrth geisio mynd i’r afael ag ef.”
Dywedodd Mr Jones, sydd ei hun yn gyn-arolygydd heddlu: “Mae caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn droseddau echrydus a gwrthun sy'n treiddio i galon ein cymdeithas yma yng ngogledd Cymru a dyna pam yr wyf wedi’i wneud yn un o flaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sy’n gosod y strategaeth ar gyfer plismona'r ardal.
Mae'n hanfodol cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o un o'r troseddau mwyaf llechwraidd sy'n wynebu cymdeithas ac rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid i ddatgelu a mynd i'r afael â'r drosedd hon, amddiffyn y dioddefwyr a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
I wneud hyn mae angen i gymunedau’r Gogledd ein cefnogi, cadw llygad allan am dystiolaeth ohono a chysylltu â'r heddlu os oes gennych bryderon."
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru fwy o wybodaeth ar ei wefan caethwasiaeth fodern - www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/modern-slavery.aspx.
Os ydych chi’n amau bod caethwasiaeth yn digwydd yn agos atoch chi, rhowch wybod i'r heddlu ar 101, yn ddienw trwy Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 neu ffoniwch y Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 0800 012 1700 neu BAWSO ar 08007318147. Mae'r gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr ar gael rhwng 8am-8pm dydd Llun i ddydd Gwener a 9am-5pm ar ddydd Sadwrn. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth drwy Radffon ar 0300 3030159, trwy e-bost yn: northwales.helpcentre@victimsupport.org.uk, neu trwy'r gwefannauwww.victimhelpcentrenorthwales.org.uk neu www.canolfangymorthiddioddefwyrgogleddcymru.org.uk