Skip to main content

Hannah ddewr yn helpu dioddefwyr ymosodiadau rhywiol

Dyddiad

Dyddiad
Hannah

Mae dynes sy’n neilltuo ei bywyd gwaith i helpu merched yn eu harddegau i wella o erchyllterau cam-drin rhywiol wedi cael ei hanrhydeddu gan bennaeth heddlu.

Mae Hannah Mart, 40 oed, yn rhedeg grwpiau cymorth yn Wrecsam a Bae Colwyn ar gyfer merched ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, gan roi cymorth a chyngor wrth iddynt geisio dod dros eu profiadau erchyll.

Yn dilyn ei gwaith enillodd Hannah wobr Eiriolwr Dioddefwyr yng Ngwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yng Ngwesty Kinmel Manor, Abergele.

Mae cyfarfodydd misol Hannah, sy’n cael eu hadnabod fel Grwpiau Merched, neu Girls’ Groups, wedi bod yn rhedeg ers 2015 ac yn rhoi cyfle i’r merched yn eu harddegau - i gyd rhwng 15 a 19 oed ac o bob rhan o Ogledd Cymru - gymryd rhan mewn gweithgareddau positif.

Dywed Hannah, sy’n cael ei chyflogi gan Betsi Cadwaladr ac sy’n gweithio o Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw (SARC) ym Mae Colwyn: “Y syniad oedd creu ardal lle gallai pobl sydd â phrofiad o drais rhywiol gyfarfod.

“Os ydych yn ferch ifanc sydd wedi profi trais rhywiol yn ei harddegau, gall fod yn brofiad gwirioneddol ynysig. Gall wneud i chi deimlo’n wahanol i’ch cyfoedion.

“Felly, roeddem yn awyddus i greu gofod ble gallent deimlo yn normal a chael eu cynnwys.

“Mae gan lawer o’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw broblemau iechyd meddwl sylweddol felly roeddem hefyd yn awyddus i greu gofod lle’r oedd yn iawn i deimlo’n bryderus, lle’r oedd yn iawn i gael pwl o banig, ac roedd yn iawn os oedd gennych greithiau hunan-niweidio. Nid chi fyddai’r unig berson. Mae’n ymwneud â chymunoldeb profiad. “

Mae cyfarfodydd y Grŵp Merched yn canolbwyntio ar un dasg benodol bob tro - gwaith crefft fel rheol - ond y prif syniad yw cael y dioddefwyr at ei gilydd mewn un man lle maent yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu dod dros eu profiadau.

“Nid oes yr un ohonom yn dda iawn am wneud gwaith crefft mewn gwirionedd,” meddai Hanna, “oherwydd y pethau sy’n digwydd dan yr wyneb sy’n cyfrif fwyaf.”

Bydd y merched weithiau yn mynd ar deithiau cerdded gyda’i gilydd neu wrando ar sgyrsiau gan siaradwyr gwadd, fel seicolegwyr neu bobl ysbrydoledig sydd wedi goresgyn problemau iechyd meddwl neu wedi dioddef ymosodiadau rhywiol eu hunain ac wedi cael adferiad ar ôl y profiad.

Dros yr haf, mi wnaeth y Grwpiau Merched hefyd ymuno â phrosiect STAR sy’n hyrwyddo datblygiad Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch mewn perthynas, mynychu dosbarthiadau bocsarfer a sgyrsiau am gynllunio teulu a pherthynas i ddioddefwyr cam-drin rhywiol.

Ar ennill y wobr, dywedodd Hannah: “Rwy’n hapus iawn, iawn. Mae’n braf iawn cael y gydnabyddiaeth, mae’n hyfryd. “

Diolchodd y cyn-weithiwr Childline i’w rheolwr ‘rhyfeddol’ a ‘chefnogol’, Sarah Staveley, a’r bobl ifanc sy’n mynychu’r Grwpiau Merched.

Dywedodd: “Mae’n cymryd dewrder go iawn i ddod i mewn i ystafell o bobl nad ydych erioed wedi eu cyfarfod – gall fod yn frawychus.

“Maen nhw’n anhygoel efo’i gilydd. Gall unrhyw un sefydlu grŵp, ond os nad oes gennych chi bobl ifanc sy’n barod i roi ychydig o’u hunain, ni fyddai’n gweithio.”

“Rwyf wedi treulio fy mywyd gwaith cyfan yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y maes diogelu, a’r swydd hon yn bendant yw’r un fwyaf gwerthfawr yr wyf wedi ei gwneud erioed.

“Mae’n anodd ac yn gofyn llawer, ac yn achosi straen a gofid ar adegau, ond mae’n rhoi boddhad awr. Ni allech wneud y swydd oni bai am hynny.

Cafodd Hannah ei henwebu am ei gwobr gan Dave Evans, rheolwr Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT), a ddywedodd: “Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Hannah wedi ennill gwobr Eiriolwr Dioddefwyr. Trwy fy ngwaith gyda Chronfa Ieuenctid Trechu Trosedd yr Uchel Siryf, rwyf wedi adnabod Hannah am flynyddoedd lawer, o’i hamser gyda Childline i’w gwaith presennol gyda SARC a phrosiect STAR.

“Mae’r wobr hon yn brawf o’r ymroddiad a’r ymrwymiad y mae Hannah yn dangos yn ei gwaith i gefnogi pobl ifanc sy’n ddioddefwyr troseddau a cham-drin rhywiol, ac mae’n waith sy’n hanfodol bwysig o ystyried y tueddiadau cynyddol y mae ein pobl ifanc yn parhau i ddod ar eu traws.”

Teimlai’r Comisiynydd Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ei bod hi’n bwysig cydnabod ymdrechion arwyr tawel y gymuned.

Dywedodd: “Mae un peth yn gyffredin i’n holl enillwyr, sef eu bod yn gwneud Gogledd Cymru yn lle gwell a mwy diogel i fyw a gweithio ynddo.

“Mae llawer o bobl anhunanol yn gwneud llawer o waith da yn y gymuned drwy helpu Heddlu Gogledd Cymru ac mae’r gweithwyr tawel hyn yn mynd yr ail filltir yn aml iawn gan wneud cyfraniad a sicrhau bod eu cymunedau yn ddiogel.

“Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae hyn yn ymrwymiad personol a wnaed heb ddisgwyl unrhyw fath o wobr neu gydnabyddiaeth.

“Mae’r seremoni wobrwyo hon felly, yn gyfle i gydnabod ymdrechion diflino’r arwyr tawel hyn ac i annog eraill i ddilyn eu hesiampl dda.”