Dyddiad
Mae pennaeth heddlu wedi addo mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yn sgȋl ofnau y bydd y dirwasgiad economaidd a achosir gan Covid-19 yn arwain at gamfanteisio ar fwy o ddioddefwyr gyda phuteindai dros dro yn ailymddangos eto mewn llety Airbnb a mathau eraill o eiddo gwyliau.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn ofni y bydd y tlodi a achosir gan y dirwasgiad anochel yn gweld mwy o bobl fregus yn cael eu sugno i mewn i'r fasnach ddrwg.
Yn ôl Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, mae’r cyfnod clo wedi ei gwneud hi’n anoddach i’r pimpiaid milain a gangiau Llinellau Cyffuriau weithredu.
Er hynny pwysleisiodd nad oedd caethwasiaeth fodern wedi diflannu yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Ar ôl gostyngiad cychwynnol yn nyddiau cynnar y pandemig, roedd nifer yr achosion yr oedd Heddlu Gogledd Cymru yn delio â nhw, fel heddluoedd eraill yng ngweddill y DU, yn cynyddu eto yn gyflymach nag erioed.
Unwaith y bydd y cyfyngiadau clo yn cael eu llacio, dywed Mr Jones y bydd y gangiau caethwasiaeth yn gobeithio dychwelyd i fusnes fel arfer.
Roedd y cyfyngiadau wedi lleihau’r mannau Airbnb oedd ar gael i'w defnyddio fel puteindai dros dro ond unwaith y bydd y cyfyngiadau teithio wedi'u llacio bydd llefydd o'r fath ar gael i'w llogi eto.
Mae Mr Jones wedi gwneud mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn flaenoriaeth allweddol yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd.
Yn 2017 darparodd gyllid i benodi’r swyddog heddlu cyntaf yn y DU sy'n ymroddedig i gefnogi a helpu dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
Y mis diwethaf crëwyd hanes eto pan ddaeth Heddlu Gogledd Cymru y gwasanaeth heddlu cyntaf yng Nghymru i wneud cais llwyddiannus am Orchymyn Risg Caethwasiaeth a Masnachu Pobl (STRO) mewn perthynas ag ymchwiliad yn ymwneud â chamfanteisio ar blant.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’r argyfwng coronafeirws wedi creu heriau digynsail o ran plismona gogledd Cymru, yn enwedig mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern.
“Er bod rhai gweithgareddau wedi cael eu cyfyngu gan y cyfnod clo, nid yw caethwasiaeth fodern wedi diflannu - i'r gwrthwyneb yn wir.
“Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion sy'n dod i'r amlwg ac efallai mai un o; rrhesymau am hynny yw bod pobl yn fwy hyderus i adrodd amdanyn nhw.
“Beth bynnag yw’r achos, rwy’n benderfynol o roi’r holl adnoddau angenrheidiol i’r heddlu i frwydro yn erbyn y busnes hwn.
“Mae yna gyswllt rhwng byd gangiau troseddau cyfundrefnol a byd caethwasiaeth fodern. Lle canfyddir tystiolaeth o weithgaredd gan y naill yn aml mae'r llall yn chwarae rhan allweddol hefyd.
“Mae troseddwyr cyfundrefnol yn aml yn arallgyfeirio eu modelau busnes y tu allan i droseddau traddodiadol cyffuriau ac arfau ac yn delio mewn pobl. Mewn gwirionedd, mae rhai o'u modelau busnes troseddol mwy newydd yn dibynnu ar fasnachu pobl, er enghraifft Llinellau Cyffuriau - sy'n cymryd mantais ar bobl ifanc fregus gan eu gorfodi i fywyd o gamfanteisio troseddol.
“Mae fy mhrif bryder yn ymwneud â bygythiad, risg a niwed i ddioddefwyr. Mae caethwasiaeth fodern yn cyflwyno bygythiad, risg a niwed mawr i'n holl gymunedau."
Y llynedd, cyfeiriwyd 97 o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern at yr heddlu yng ngogledd Cymru ac roedd hynny bron ddwywaith yn fwy na’r nifer ar gyfer 2018.
Ond mae'n debygol iawn mai dim ond crafu'r wyneb yw hynny ac y gallai’r nifer gwirioneddol o ddioddefwyr fod yn llawer uwch.
Roedd y Ditectif Ringyll Richard Sidney, o Uned Caethwasiaeth Fodern yr heddlu, yn ddiolchgar i’r Comisiynydd Jones am ei gefnogaeth “ddiwyro”.
Meddai: “Fel bob amser, mae mwyafrif yr achosion sy’n cael eu cyfeirio atom yn ymwneud â chamfanteisio troseddol a chamfanteisio sy’n gysylltiedig â chyffuriau, sy’n cael eu hadnabod fel arfer fel Llinellau Cyffuriau.
“Yn anffodus, nid yw dibyniaeth pobl ar gyffuriau yn diflannu oherwydd pandemig Covid-19.
“Mae yna farchnad yno o hyd a chyfle o hyd i wneud arian ac mae pobl yn parhau i gael eu hecsbloetio yn y ffordd honno.
“O ganlyniad i Covid, efallai y bydd ecsbloetwyr yn ceisio addasu eu tactegau ac rydym yn ymwybodol o hynny ac rydym yn ymateb i hynny.
“Yr un thema gyffredin gyda’r holl ddioddefwyr yw eu bod yn fregus mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Efallai bod ganddyn nhw ddefnydd problemus o gyffuriau, efallai eu bod yn bobl ifanc fregus neu'n bensiynwyr â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r oedran yn amrywio o blant i bensiynwyr yn eu 60au neu eu 70au.
“Mae’n bosib y bydd y dirywiad economaidd yn eu gwneud hyd yn oed yn fwy bregus gyda phobl yn dod yn fwy agored nag erioed i gael eu hecsbloetio - neu mewn sefyllfa lle'r oedd pobl cyn hyn yn ymylu ar fod yn fregus, efallai y byddan nhw rŵan mewn trafferth go iawn ac yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i ffordd wahanol o gael dau ben llinyn ynghyd.
“Efallai y byddan nhw wedi colli eu gwaith o ganlyniad i gael eu diswyddo ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi ac angen dod o hyd i ffordd o dalu am eu harfer.
“Byddan nhw'n cael eu sugno i mewn ac yn mynd i ddyled ac er mwyn ad-dalu’r ddyled honno yn sydyn iawn, mi fyddan nhw’n cael eu gorfodi i wneud rhywbeth troseddol.
“Cyn y cyfnod clo, ac fel llawer o ardaloedd heddlu ledled y DU, derbyniodd Heddlu’r Gogledd wybodaeth bod puteindai dros dro yn cael eu sefydlu yng ngogledd Cymru.
“Wrth i’r cyfyngiadau teithio gael eu llacio, rwy’n rhagweld y bydd mwy o lety Airbnb a llety gwyliau tymor byr arall ar gael, ac y bydd defnydd pobl o’r mathau yma o lety yn cynyddu gyda mwy o bobl yn symud o gwmpas y rhanbarth.
“Yn ogystal â’r difrod corfforol i iechyd pobl, gall hyn hefyd gael effaith seicolegol a chwalfa emosiynol a allai barhau am weddill eu hoes.
“Fy mhrif neges, er gwaethaf Covid, yw ein bod yn dal i geisio amddiffyn pobl sy'n dioddef camfanteisio ac i gefnogi pobl i ddod allan o'r cylch dieflig yna.
“Mae cefnogaeth ar gael gan y partneriaid rydym yn gweithio gyda hwynt fel Barnardo’s a BAWSO sy’n darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng ngogledd Cymru o’i gangen yn Wrecsam.
“Diogelu yw ein prif flaenoriaeth, felly os nad yw'r dioddefwyr yn gyffyrddus yn siarad efo ni, rydym yn dal eisiau eu cael allan o'u sefyllfa anodd ac felly mi fedran nhw siarad efo'n partneriaid."
Gall unrhyw un sydd am adrodd am achosion posib o gaethwasiaeth fodern wneud hynny trwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555111 neu'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700.