Dyddiad
Mae pennaeth heddlu newydd wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i frwydro yn erbyn y llif cynyddol o droseddau ar-lein.
Roedd, Andy Dunbobbin, 46 oed, yn siarad heddiw (dydd Iau, Mai 13) ar ei ddiwrnod swyddogol cyntaf yn y rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar ôl olynu Arfon Jones yn y swydd.
Wrth sefyll dros Lafur, dywedodd Mr Dunbobbin, sy’n dad i ddau o blant, fod ennill yr etholiad yn un o eiliadau balchaf ei fywyd ac addawodd gynrychioli pawb yng ngogledd Cymru, waeth beth fo’u hymlyniad gwleidyddol.
Yn frodor o Gei Conna yn Sir y Fflint, mae’n fab ac yn ŵyr i weithwyr dur y cafodd ei deulu ei daro’n galed yn 1980, pan ddiswyddwyd 6,500 o weithwyr gan British Steel yn Shotton.
Dyma’r diswyddiad diwydiannol mwyaf ar un diwrnod a welwyd erioed yng Ngorllewin Ewrop a bu’r ergyd economaidd a chymdeithasol ofnadwy a’r degawdau o amddifadedd a ddaeth yn ei sgil i Lannau Dyfrdwy yn gwbl ffurfiannol i’w werthoedd a’i safbwyntiau.
Ond argyfwng teuluol arall, meddai, wnaeth ei ysbrydoli i ddilyn trywydd gyrfa o wasanaeth cyhoeddus.
Cymerodd ef a’i wraig, Louise, bedwar o blant eraill i mewn fel gofalwyr sy’n berthnasau a thros nos daethant yn deulu o wyth.
Yn dilyn y gefnogaeth a gawsant ar y pryd tyfodd awydd cryf yn Mr Dunbobbin i geisio bod mewn sefyllfa i wneud pethau ymarferol i helpu pobl eraill ac yn 2013 cafodd ei ethol i Gyngor Sir y Fflint.
Un o’i lwyddiannau proffesiynol mwyaf hyd yma oedd chwarae rhan wrth sicrhau bod Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn cael eu darlledu’n llwyddiannus ledled y byd i biliynau o bobl.
Ar y pryd roedd yn gweithio fel arweinydd tîm technegol i gwmni rhwydwaith lleol ac roedd yn gyfrifol am gynnal gwiriadau trylwyr ar yr amrywiaeth helaeth o dechnoleg a ddefnyddiwyd gan yr unedau darlledu allanol yn y Gemau Olympaidd, y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd.
Yn awr yn 2021 dywed fod y cyfle i sefyll etholiad fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gyfle a oedd yn rhy dda i’w wrthod.
Meddai: “Rwy’n credu’n angerddol yn y syniad o wasanaeth cyhoeddus oherwydd mae y pethau sydd wedi digwydd yn fy mywyd a’m hawydd cryf i wasanaethu pobl y Gogledd.
“Lle mae her, byddaf bob amser yn camu i fyny. Bu pethau yn fy mywyd - fel bod yn ofalwr sy’n berthynas a mynd o fod yn deulu o bedwar i fod yn deulu o wyth dros nos - sydd wedi dangos fy ymrwymiad i wneud y peth iawn.
“Pan mae her, byddaf bob amser yn barod i gamu i fyny i’w hwynebu. Rydw i wedi fy ngwreiddio yn y gymuned ac rydw i eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, gan ddysgu oddi wrth ein gilydd a chydweithio fel ein bod ni i gyd ar ein hennill.
“Fy rheswm dros sefyll i ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru oedd fy mod yn gwybod pa mor bwysig yw cadw teuluoedd a chymunedau yn ddiogel. Mae’n wirioneddol bwysig i bobl pa mor ddiogel ydyn nhw.
“Mae cymaint o ddylanwad y gall y rôl hon ei gael wrth wella ein cymunedau.
“Bydd fy maniffesto yn gosod sail i’m cynllun am y tair blynedd nesaf i ddarparu cyfeiriad strategol Heddlu Gogledd Cymru a dyna beth y byddaf yn cael ei fesur yn ei erbyn.
“Nid dim ond ar y strydoedd y mae troseddu yn digwydd bellach, mae hefyd yn digwydd ar-lein ac mae hynny’n her enfawr i’r heddlu.
“Mae troseddu ar-lein yn amlygu ei hun mewn cymaint o wahanol ffyrdd, yn amrywio o dwyll i gam-fanteisio rhywiol a throseddau casineb.
“Mae’r troseddwyr yn dod yn fwy soffistigedig yn ddyddiol bron, ac mae’n hanfodol bod yr heddlu hefyd yn parhau i fod yn fwy medrus wrth ddefnyddio technolegol.
“Oherwydd fy nghefndir, rwyf wedi arfer defnyddio pecynnau meddalwedd ac offer soffistigedig iawn.
“Rhaid i ni fuddsoddi i sicrhau bod gan Heddlu Gogledd Cymru’r dechnoleg ddiweddaraf i frwydro yn erbyn troseddwyr ar-lein. Rydym am sicrhau bod technoleg yr heddlu yn ddigon da ar gyfer y dyfodol a sicrhau mwy o werth am arian.
“Rwy’n credu y bydd fy ngwybodaeth a’m harbenigedd yn y maes hwn yn gryfder go iawn.
“Ar lawr gwlad, rwyf am wella gwelededd Heddlu Gogledd Cymru oherwydd rydym i gyd yn gwybod bod atal yn well na gwella - mae presenoldeb heddlu yn rhoi tawelwch meddwl i bobl.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) yng Nghymru o 500 i 600. Byddaf yn cael sgyrsiau i sicrhau bod gogledd Cymru yn cael ei chyfran deg.
“Rhywbeth arall rwy’n teimlo’n gryf yn ei gylch yw buddsoddi mewn gwasanaethau dioddefwyr, gan gynnwys sefydlu panel ‘dioddefwyr’. Rwyf am roi llais i ddioddefwyr er mwyn rhoi cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr ddweud wrthym beth y gellir ei wneud yn well.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gydnabod ledled y DU am y gwelliannau sylweddol maen nhw wedi’u gwneud o ran plismona cefn gwlad ac mae hyn yn rhywbeth rydw i eisiau adeiladu arno.
“Er fy mod i’n byw mewn ardal drefol, rwyf wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth plismona gorau posibl ar gyfer gogledd Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig.”
Roedd Mr Dunbobbin hefyd eisiau talu teyrnged i’w ragflaenydd, Arfon Jones, sydd wedi ymddeol.
Meddai: “Mae angen llongyfarch Arfon ar y gwaith y mae wedi’i gyflawni, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod y pandemig sydd wedi achosi heriau digynsail i’r heddlu.”
Dywedodd Stephen Hughes, Prif Weithredwr Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: “Ar ran y tîm, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau diffuant i Andy ar ennill yr etholiad i ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at ei gefnogi i ddrafftio Cynllun Heddlu a Throsedd newydd i amlinellu blaenoriaethau strategol Heddlu Gogledd Cymru ac i graffu ar yr heddlu i sicrhau bod yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni er mwyn gwneud gogledd Cymru yn lle mwy diogel fyth i fyw a gweithio ynddo.”