Dylai banciau bwyd gael eu trin fel achos arbennig o ran dogni bwyd gan archfarchnadoedd, yn ôl pennaeth heddlu.
Gwnaeth Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yr apêl ar ôl clywed y newyddion y gallai banc bwyd nodedig yng Nghonwy gael ei orfodi i gau yn dilyn ergyd ddwbl o gyfyngiadau a gyflwynwyd er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng coronafeirws.
Mae Banc Bwyd Llanfairfechan yn disgwyl gorfod rhoi’r gorau i weithredu yr wythnos hon ar ôl dwy flynedd a hanner er gwaethaf derbyn grant o £2,500 gan y Comisiynydd yn gynharach y mis hwn.
Ond nid yw balans banc swmpus yn dda i ddim pan fydd archfarchnadoedd yn cyfyngu’r banc bwyd i uchafswm o dri thun o unrhyw eitem ar y tro, yn ôl Penny Andow, un o drefnwyr y banc bwyd yn Llanfairfechan, rhwng Conwy a Bangor, a newidiodd yr wythnos hon i ddosbarthu i'r cartref yn unig am resymau pellhau cymdeithasol.
Meddai: “Fedrwn ni ddim agor ar ddydd Mercher gan ein bod wedi ein cyfyngu i ddau aelod o staff yn unig yn dilyn cyhoeddiadau Boris Johnson ddydd Llun ac ar ben hynny mae cyfyngiadau’r archfarchnad yn golygu na allwn brynu digon o nwyddau i’n cwsmeriaid.
“Mae cymaint o alw wedi bod am ein gwasanaeth oherwydd yr epidemig fel nad yw'n ddiogel rhedeg y banc bwyd gyda dau berson a beth bynnag ni allwn brynu digon o nwyddau er gwaethaf y grant gwych yma gan y Comisiynydd yr oeddem mor ddiolchgar amdano.
“Rydym wedi cael ein dal mewn storm berffaith. Rydym yn gwario £200 bob wythnos yn ASDA ond yr wythnos diwethaf dim ond gwerth £50 o nwyddau a roddwyd i ni gan y cyhoedd oherwydd y cyfyngiadau a achoswyd gan bobl yn prynu mewn panig.
“Yr wythnos diwethaf mi wnaethon ni drosglwyddo 13 parsel bwyd yn neuadd yr eglwys a dosbarthu 13 arall i gartrefi ond dim ond digon ar gyfer 30 parsel sydd gennym ar ôl bellach ac mi fyddan nhw wedi mynd yr wythnos hon.
“Nid dim ond ni sydd yn y sefyllfa yma. Mae'n argyfwng sy'n cael ei wynebu gan fanciau bwyd ledled y wlad. Fedrwn ni ddim gweithredu gyda dau wirfoddolwr yn unig oherwydd mi fydden nhw'n cael eu llethu ond fedrwn ni ddim prynu digon o fwyd beth bynnag.”
Dywedodd Arfon Jones: “Mae sefydliadau fel Banc Bwyd Llanfairfechan yn rhoi gwasanaeth gwych ac roeddwn i’n falch iawn o allu rhoi’r wobr iddynt.
“Mae angen mawr am y banciau bwyd hyn ymysg pobl fregus a theuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd ond mae’n edrych fel eu bod nhw’n cael eu gorfodi i beidio â gweithredu felly ble fydd pobl mewn angen yn cael yr hanfodion bwyd hyn yn y dyfodol?
“Rwy’n deall bod yr archfarchnadoedd mewn sefyllfa anodd dros ben - maen nhw’n ceisio delio â phobl yn prynu mewn panig ond mae hyn yn ei dro yn cael canlyniadau anfwriadol i elusennau fel banciau bwyd.
“Mi ddylen nhw allu cario llythyrau yn dangos mai banciau bwyd achrededig ydyn nhw er mwyn gallu prynu swm rhesymol o fwyd heb wagio’r stoc o'r silffoedd.”
Dywedodd Ms Andow, sy’n aelod o Gyngor Tref Llanfairfechan a Chyngor Sir Conwy: “Mi wnaethon ni sefydlu’r banc bwyd ddwy flynedd a hanner yn ôl ar ôl cael gwybod bod teulu lleol o bump yn gorfod chwilota mewn biniau ailgylchu am fwyd.
“Mae wedi cael ei redeg yn llwyddiannus iawn ers hynny ac rydym wedi gweithio’n dda gyda Chyngor Sir Conwy i’w agor bob dydd Mercher rhwng 1pm a 2pm ac rydym wedi dosbarthu tua wyth parsel bwyd ac wedi danfon yr un nifer i gartrefi pobl.
“Yr wythnos diwethaf fodd bynnag roedd niferoedd wedi cynyddu ac roeddem bron â chael ein gorlethu yn Neuadd yr Eglwys ac roeddem yn ddiolchgar am gymorth y SCCH lleol Sara Owen ond nid wyf yn credu y byddwn yn gallu parhau yn y dyfodol.
“Rwy’n credu y bydd yn rhaid i’r Fyddin gymryd rôl banciau bwyd tra bydd yr argyfwng hwn yn parhau.”
Mae eu parsel bwyd arferol yn cynnwys tuniau o saws pasta, pys, moron, cawl, ffa, pwdin reis, cwstard, pastai stêc, pysgod a ham, pecynnau o rawnfwyd, reis a thatws stwnsh sych, te a choffi, a bwyd cathod a chŵn ar gyfer perchnogion anifeiliaid anwes.
Fe wnaeth y Banc Bwyd dderbyn gwobr Eich Cymuned Eich Dewis gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gynharach y mis hwn fel un o 20 sefydliad ledled gogledd Cymru a rannodd dros £45,000 mewn grantiau ar ôl pleidlais ymysg y cyhoedd.
Daw’r arian o fenter Eich Cymuned Eich Dewis, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT).
Dyma seithfed flwyddyn y cynllun dyfarnu arian ac mae llawer o'r mwy na £200,000 a roddwyd i achosion haeddiannol yn yr amser hwnnw wedi'i sicrhau trwy'r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr gyda'r gweddill yn dod gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae'r cynllun wedi'i anelu at sefydliadau sy'n addo rhedeg prosiectau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd Comisiynydd yr Heddlu.