Skip to main content

Pennaeth heddlu yn dweud bod cyfraith newydd yn hanfodol i fynd i'r afael â masnachu pobl

Dyddiad

Dyddiad
Modern Slavery Conf - Group

Mae pennaeth heddlu yn galw am ddeddfwriaeth frys i fynd i’r afael â chaethwasiaeth modern a masnachu mewn pobl.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, dylai fod yn ofynnol yn gyfreithiol i gwmnïau fferi gadw rhestrau teithwyr cywir.

Mae Mr Jones yn ofni bod porthladd Caergybi yn darged hawdd i fasnachwyr pobl.

Mae hefyd yn poeni y bydd y bleidlais Brexit yn gwneud “llanast” o’r Ardal Deithio Gyffredin sydd ar hyn o bryd yn golygu y gall pobl deithio’n rhwydd rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Tynnodd sylw at y ffaith mai Caergybi yw’r ail borthladd fferi brysuraf yn y DU ac yn delio â dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn.

Daw sylwadau’r comisiynydd wrth iddo agor cynhadledd gyntaf gogledd Cymru ar gaethwasiaeth modern a masnachu pobl yn The Interchange yn Hen Golwyn.

Mynychwyd y gynhadledd gan gynrychiolwyr o awdurdodau lleol o bob rhan o ogledd Cymru, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion prawf, byrddau iechyd ac asiantaethau llywodraeth eraill.

Meddai Mr Jones: “Mae’r Ardal Deithio Gyffredin yn fan gwan o ran diogelwch cenedlaethol ac yn anffodus, mae cyfleoedd gwirioneddol i’r rheini sydd yn y busnes o fasnachu pobl.

“Rwy’n parhau i dynnu sylw at y mater hwn yn genedlaethol ac rwyf wedi dweud wrth y llywodraeth nad dyma’r amser i leihau adnoddau ar ein ffiniau. Mae gan Heddlu Gogledd Cymru bresenoldeb yn y porthladd ac maent wedi gweithredu i geisio canfod achosion o fasnachu mewn pobl.

Rwyf wedi bod yn pwyso ar gwmnïau fferi i gadw rhestr lawn o deithwyr fel y gwneir gyda theithiau awyr. Nid oes gan lawer o bobl sy’n defnyddio’r fferi er mwyn teithio i dir mawr Prydain yng Nghaergybi unrhyw gofnod o’u taith.

Nid oes angen pasbortau ac yn aml does dim angen tocynnau teithio unigol chwaith. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i’r masnachwyr sy’n eu galluogi i symud pobl yn rhwydd. Rhaid i ni ddeffro i’r man gwan yma.

Ni ddylai Porthladd Caergybi fod yn darged hawdd i droseddwyr. Rwyf wedi gofyn am ddeddfwriaeth i orchymyn i’r cwmnïau fferi gadw gwybodaeth gywir am deithwyr.

Mae mynd i’r afael â masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth modern yn effeithiol yn gofyn am blismona sy’n cael ei arwain gan wybodaeth. Mae arnom angen cefnogaeth gan y Llywodraeth i’w gwneud yn ofynnol i gadw rhestrau er mwyn i’r heddlu ddatblygu’r wybodaeth honno.

Yn gynharach eleni, ariannodd Mr Jones benodi swyddog cynorthwyol cyntaf yr heddlu yn y DU sy’n ymroddedig i helpu dioddefwyr caethwasiaeth modern a masnachu mewn pobl, sy’n flaenoriaeth allweddol yng nghynllun Heddlu a Throsedd y comisiynydd, ei gynllun penodol ar gyfer plismona Gogledd Cymru.

Ychwanegodd Mr Jones: “Nid yw masnachu potensial trwy Gaergybi, fodd bynnag, yn fater yn unig i Ynys Môn. Byddai’n naïf i gredu, lle mae dioddefwyr a throseddwyr wedi pasio drwy’r porthladd, fod y broblem yn dod i ben yno.

Ac yn aml iawn, ar yr adeg y maent yn pasio drwy’r porthladd, nid yw unigolion wedi dod yn ddioddefwyr eto. Maent yn teithio o’u gwirfodd gyda’r masnachwr o dan addewid gwaith, llety, addysg ac yn y blaen.

Yn aml dim ond ar ôl iddynt gyrraedd eu cyrchfan y maent yn sylweddoli eu bod wedi dod yn ddioddefwr.

Gall y bobl hyn ddiweddu mewn dinasoedd ar hyd a lled y DU - Llundain, Manceinion, Birmingham. Gallant hefyd ddiweddu yn Wrecsam, Yr Wyddgrug, Bae Colwyn neu’r Rhyl. “

Ymhlith y prif siaradwyr yn y gynhadledd yr oedd Roy McComb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Caethwasiaeth Modern a Masnachu Mewn Pobl, yr Asiantaeth Trosedd Genedlaethol.

Cred Mr McComb nad yw’r ffigurau swyddogol yn adlewyrchu’n iawn nifer y dioddefwyr yng ngogledd Cymru na gweddill y DU.

Dywedodd: “Os ydych chi’n gweld rhywbeth amheus yna dylech adrodd amdano, bydd yr heddlu yn ymchwilio i’ch galwad. Os oes 10 o Rwmaniaid wedi golchi eich car ar dir wast am bum punt, mae’n debygol iawn eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth modern.

Neu dylai dyn sy’n talu am ryw gyda merch 18 oed o Fietnam sy’n methu siarad Saesneg sylweddoli ei bod yn bosib iawn ei bod hi hefyd yn dioddef caethwasiaeth modern. Gallwn leihau’r galw os byddwn yn adrodd am amheuon a pheidio defnyddio gwasanaethau dioddefwyr posibl.

Mae codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol. Mae arnom angen i’r cyhoedd wybod bod caethwasiaeth modern ar garreg drws pawb lle bynnag rydych yn byw, boed hynny’n ddinas fawr neu ardal wledig yng ngogledd Cymru.

Amcangyfrifir bod niferoedd gwirioneddol dioddefwyr caethwasiaeth yn y DU heddiw rhwng 10 a 14,000. Mae’r ffigwr swyddogol yn awgrymu mai dim ond tua 4,000 o ddioddefwyr sydd yno. Fodd bynnag, credwn fod y ffigurau go iawn yn y cannoedd o filoedd.

Mae caethwasiaeth modern a masnachu mewn pobl bellach yn flaenoriaeth genedlaethol. Y broblem yw nad yw troseddwyr yn gweld eu dioddefwyr yn ddim mwy na nwyddau. Maent yn cael rheolaeth dros eu dioddefwyr yn aml trwy ddefnyddio ofn a thrais i’w hecsbloetio.”

Cafodd y neges ei hategu gan Kevin Hyland OBE, Comisiynydd Gwrth-Gaethwasiaeth Annibynnol y DU.

Dywedodd: “Mae angen i ni weithio ar bob lefel, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddiogelu dioddefwyr. Yn 2016, cawsom 26 o atgyfeiriadau caethwasiaeth modern yng ngogledd Cymru, gan arwain at gofnodi 78 o droseddau a gwneud 31 arést. Cafodd tri eu cyhuddo.

Rydym yn dechrau taflu goleuni ar y broblem a chymryd camau gweithredu ond mae angen i ni dderbyn y cywilydd am yr hyn sy’n digwydd. Rydym ni, sy’n gweithio yma yng ngogledd Cymru, yn dylanwadu ar weddill y DU a’r byd ac rydym yn gwneud gwahaniaeth.”

Dywedodd Paul Broadbent, Prif Weithredwr yr Awdurdod Gangfeistri Cam-drin Llafur: “Mae masnachu pobl a chaethwasiaeth modern yn drosedd risg isel sy’n broffidiol iawn. Mae angen i ni ei gwneud yn drosedd risg uchel, nad yw’n talu ffordd.

Mae dwyn cyflog yn drosedd. Gwyddom nad yw 600,000 o bobl yn y DU yn derbyn yr isafswm cyflog. Gallwn efallai dderbyn, efallai, nad yw hanner y bobl hyn yn cael eu talu’n llawn oherwydd gwallau gweinyddol. Mae hynny’n dal i adael 300,000 o ddioddefwyr posibl.”

I gysylltu â’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Modern ffoniwch 08000 121 700.

Mae gan Heddlu Gogledd Cymru wybodaeth bellach ar ei gwefan caethwasiaeth modern yn www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/modern-slavery.aspx.

Os ydych yn amau ​​bod caethwasiaeth yn digwydd yn agos i chi, rhowch wybod i’r heddlu ar 101, yn ddienw trwy Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ffoniwch y Llinell Gymorth Caethwasiaeth Modern ar 0800 012 1700 neu BAWSO ar 08007318147. Mae’r gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr ar gael o 8 am-8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am-5pm ar ddydd Sadwrn. Gellir cysylltu trwy Rhadffôn ar 0300 3030159, trwy e-bost yn: northwales.helpcentre@victimsupport.org.uk, neu drwy eu gwefan www.canolfangymorthiddioddefwyrgogleddcymru.org.uk.