Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn galw am newid yn y gyfraith i ganiatáu marw â chymorth.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn un o 18 Comisynydd Heddlu a Throsedd ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi arwyddo llythyr i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn annog diwygio’r hawl i farw.
Mae Mr Jones yn cefnogi’r ymgyrch sydd wedi’i lansio ar ran Ron Hogg, Comisiynydd Heddlu, Trosedd a Dioddefwyr Durham, sydd â chlefyd motor niwron ac sy’n dymuno i’r gyfraith gael ei newid er mwyn caniatáu iddo ddod â’i fywyd i ben
Mae'n gyflwr nad oes gwella ohono sy'n arwain yn y pen draw at ddirywiad yn y cyhyrau a marwolaeth.
Eisoes mae angen help ar Mr Hogg i anadlu ac mae'n herio'r gyfraith sy'n gwahardd marw â chymorth.
Dywedir ei fod yn ystyried mynd i glinig hunanladdiad Dignitas yn y Swistir i fyrhau'r dioddefaint y bydd ei gyflwr yn arwain ato.
Deellir y byddai'n well ganddo farw yn yr Alban, lle cafodd ei eni, ond mae'r gwaharddiad presennol ar farw â chymorth yn golygu y bydd yn rhaid iddo fynd dramor.
Fe allai hefyd olygu dod â’i fywyd i ben yn gynharach nag y byddai’n dymuno yn yr ofn y gallai fod yn rhy sâl i deithio.
Dywedodd Mr Hogg: “Rwy’n credu y dylai’r gyfraith ganiatáu marw â chymorth. Yn amlwg mae angen i chi gael mesurau diogelu yn eu lle. Ond dylid amlinellu llwybr clir lle gall unigolion a fyddai’n dymuno dewis y llwybr hwnnw wneud hynny, a gwneud hynny'n gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig.
Ers cael ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae Mr Jones wedi gweithio'n agos gyda Mr Hogg, sydd wedi bod yn eiriolwr arloesol ac angerddol dros ddiwygio cyffuriau.
Mae Mr Hogg wedi arloesi dull newydd o ddelio â mân droseddwyr, gan gynnwys pobl sydd â defnydd problemus o gyffuriau, trwy gynllun llwyddiannus o'r enw Checkpoint.
Mae comisiynydd Gogledd Cymru ar fin lansio cynllun tebyg o'r enw Checkpoint Cymru a fydd yn gweld cyfle i’r troseddwyr lefel isel yma osgoi record droseddol trwy ymuno â rhaglen adsefydlu lem a chadw allan o drafferth.
Dywedodd y llythyr a lofnodwyd ar y cyd gan Mr Jones: “Bydd llawer wedi profi neu glywed am achosion lle mae’r gwaharddiad cyffredinol ar farw â chymorth wedi achosi trallod, dryswch a phoen i bobl sy’n marw, eu hanwyliaid, a hyd yn oed y swyddogion heddlu sy’n ymchwilio.
Yn fwyaf diweddar, rhyddhawyd hen-nain, Mavis Eccleston, gan reithgor ar ôl cael ei chyhuddo o lofruddiaeth am helpu Dennis, ei gŵr o 60 mlynedd, i ddod â’i fywyd ei hun i ben yn hytrach na dioddef unrhyw boen pellach o ganser y coluddyn.
Yn gynharach eleni, bu'r heddlu'n ymchwilio i Ann Whaley, 76 oed, am archebu cludiant a llety yn y Swistir ar gyfer ei gŵr, Geoff, a oedd wedi trefnu marw â chymorth yn Dignitas er mwyn osgoi diwedd trawmatig hirfaith o’i afiechyd motor niwron. “Ni ellir diystyru cost yr ymchwiliadau hyn - yn ariannol, emosiynol a chymdeithasol - yn hawdd.
Credwn ei bod hi’n bryd edrych o’r newydd ar weithrediad y gyfraith bresennol ar farw â chymorth.
Er bod yna wahaniaethau barn amlwg ynghylch a ddylai’r gyfraith newid ai peidio, rydym yn dadlau nad yw’r gyfraith yn gweithio cystal ag y gallai ac yn ceisio ymchwiliad i gadarnhau hynny.”
Mae'r llythyr wedi cael ei groesawu gan sefydliad Dignity Dying.
Dywedodd y Prif Weithredwr Sarah Wootton: “Mae’n amlwg nad yw’r gwaharddiad cyffredinol ar farw â chymorth yn gweithio i bobl sy’n marw, i’w teuluoedd, nac i’r gweision cyhoeddus ymroddedig sy’n gorfod ei weithredu.
Mae pawb yn cytuno bod yn rhaid amddiffyn pobl fregus, ond nid yw hynny'n digwydd o dan y drefn bresennol.
Y cyfan y mae'r gwaharddiad ar farw â chymorth yn ei wneud yw gyrru’r arfer y tu ôl i ddrysau caeedig a gorfodi pobl i fynd dramor, gyda phobl ddifrifol wael yn aml yn dod â’u bywydau i ben yn gynamserol rhag ofn mynd yn rhy sâl i weithredu.
Mae yna hefyd ddull gwasgaredig o orfodi’r gyfraith. Naill ai nid oes craffu o gwbl, sy'n golygu bod cyfleoedd ar gyfer mesurau diogelu posibl yn cael eu colli, neu mae aelodau cariadus o'r teulu yn cael eu labelu'n droseddwyr am weithredoedd o dosturi ac yn gorfod dioddef ymchwiliadau gofidus ac ymwthiol ar gost fawr i'r pwrs cyhoeddus.
Pan fydd hanner y comisiynwyr heddlu a throsedd ledled y wlad yn cydnabod nad yw deddf yn gweithio, mae’n ddyletswydd ar y rhai sy'n llunio'r deddfau i wrando. Mae'n bryd cynnal ymchwiliad dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'r gwaharddiad cyffredinol ar farw â chymorth.”