Skip to main content

Pennaeth heddlu yn galw am sicrwydd o ran diogelwch porthladd

Dyddiad

Dyddiad
drugs story big

Llywodraeth yn “ymwybodol o wendidau” ym mhorthladdoedd y DU

Mae pennaeth heddlu wedi galw am sicrwydd gan Lywodraeth y DU ynglŷn â mesurau diogelwch ym mhorthladd Caergybi.

Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn pryderu y gallai agwedd “hyblyg” newydd tuag at atal terfysgaeth weld adnoddau yn cael eu crynhoi mewn porthladdoedd yn ne Lloegr.

Mae’n ofni y gallai hynny adael Caergybi a phorthladdoedd eraill yng Nghymru heb ddigon o adnoddau a staff i wneud eu gwaith yn iawn.

Mae Mr Jones hefyd yn poeni y bydd y bleidlais Brexit i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud “traed moch” o’r Ardal Deithio Gyffredin sydd ar hyn o bryd yn golygu bod pobl yn gallu teithio’n rhwydd rhwng y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.

Tynnodd sylw at y ffaith mai Caergybi yw’r porthladd fferi ail brysuraf yn y Deyrnas Unedig gyda dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn yn ei defnyddio.

Codwyd y mater gan y comisiynydd heddlu ar ôl i arbenigwr annibynnol leisio pryder bod ad-drefnu plismona gwrthderfysgaeth, gan ganolbwyntio ar weithgareddau mewn porthladdoedd mwy, yn peryglu lleihau mesurau diogelwch ar bobl sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig mewn awyrennau preifat a llongau mewn meysydd awyr bach, porthladdoedd neu fannau glanio cychod.

Dywedodd Mr David Anderson QC, yr Adolygydd Annibynnol ar Ddeddfwriaeth Terfysgaeth, sydd ar fin gadael ei swydd: “Efallai y bydd fy olynydd ar ryw adeg yn dewis edrych ar ymdriniaeth o borthladdoedd llai, marinas a mannau glanio ar hyd arfordir de a dwyrain Prydain.

“Mae’n bosibl y gallai’r llefydd hyn fod yn opsiwn ar gyfer ymladdwyr tramor sy’n dychwelyd neu i derfysgwyr eraill, fel y maent, yn ôl rhai adroddiadau, i fewnfudwyr sydd weithiau’n eu defnyddio, neu’n ceisio eu defnyddio, i ddod i mewn i’r wlad.”

Yn ôl y Comisiynydd, cafodd pwyntiau Mr Anderson eu “gwneud yn dda” ond roedd yn teimlo fod y problemau posibl yr un mor berthnasol i Gaergybi.

Dywedodd Mr Jones: “Rhybuddiodd adolygydd annibynnol blaenorol, yr Arglwydd Carlile QC, yn ôl yn 2002 fod diffyg plismona yn y porthladdoedd yn golygu eu bod yn fan gwan yn y rhyfel yn erbyn terfysgaeth.

“Bu gennyf bryderon ers cyn y refferendwm, nid yn unig o ran yr effaith ar droseddu a diogelwch, ond hefyd ynghylch sut y byddai’r Ardal Deithio Gyffredin yn gweithio ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Cefais gyfle i holi’r Gweinidog dros Ddiogelwch, Ben Wallace AS mewn cyfarfod o’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ynghylch fy mhryderon am adnoddau’r heddlu yn y porthladdoedd, a dywedwyd wrthyf fod y Llywodraeth yn ymwybodol o’r gwendidau yn y mannau hynny.

“Rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod y bydd troseddwyr a therfysgwyr yn chwilio am y ffordd hawsaf i ddod i mewn i’r wlad, ac ni fyddant yn poeni llawer os yw hynny yn golygu dod trwy Ddulyn neu Heathrow.

“Os ydym yn torri i lawr ar y nifer o swyddogion heddlu yng Nghaergybi, yn sir Benfro, Swydd Gaerhirfryn a’r Alban, mae’n mynd i’w gwneud yn haws i droseddwyr a therfysgwyr i ddod i mewn.

“Bydd terfysgwyr a throseddwyr yn gyffredinol yn camddefnyddio’r Ardal Deithio Gyffredin, ac yn dod o hyd i fannau gwan er mwyn dod i mewn i’r wlad ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i fynd i’r afael â’r mater yma.

“Beth sydd ei angen arnom yw ychydig o arweiniad clir gan Lywodraeth San Steffan, oherwydd mae llawer gormod o gwestiynau heb eu hateb ar hyn o bryd ac wrth drafod diogelwch a throseddu mae gwir angen i ni gael rhai atebion pendant.

“Dywedir o hyd nad mesur i arbed arian yw hyn, ond rwy’n credu yn ôl pob tebyg mai dyna ydyw.”

“Mae’r rhyddid i bobl symud o gwmpas yr Ardal Deithio Gyffredin gyda dogfennau adnabod syml wedi bodoli erioed ers sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922. Er mwyn i swyddogion heddlu gael eu harwain gan wybodaeth gadarn mae angen derbyn gwell rhestrau teithwyr gan y cwmnïau fferi, yn debyg i’r hyn rydym eisoes yn ei dderbyn gan y cwmnïau hedfan.

“Yn ogystal â chael rhestrau teithwyr gwell gan gwmnïau fferi, rydym angen penderfyniadau gan y llywodraeth ganolog o ran sut y bydd yr Ardal Deithio Gyffredin a diogelwch yn gyffredinol yn gweithredu ar ôl Brexit.

“Fy marn i yw y bydd angen i ni gael llawer mwy o adnoddau mewn llefydd fel Caergybi nag sydd gennym ar hyn o bryd.

“Nid oes unrhyw beth yn fwy pwysig i mi na chadw pobl yn ddiogel.”