Dyddiad
O hyn ymlaen bydd plismyn ar draws gogledd Cymru yn cario chwistrell trwynol “gwyrthiol” sy'n gweithredu fel gwrthwenwyn i orddos cyffuriau ar ôl i ddau fywyd gael eu hachub yn ystod prosiect peilot.
Mae'r defnydd o Naloxone wedi cael ei annog gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a ddywedodd ei fod yn un o'r llwyddiannau yr oedd mwyaf balch ohonynt cyn camu i lawr yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd newydd ar Fai 6.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, ni fydd unrhyw swyddog yn cael eu gorfodi i gario na defnyddio’r chwistrell ond nad oedd “dim prinder” o wirfoddolwyr a oedd eisiau cymryd rhan.
Bydd swyddogion heddlu yn defnyddio offer amddiffyn personol a masgiau wyneb os oes angen iddyn nhw ddefnyddio’r chwistrell.
Gellir defnyddio’r chwistrell, i drin gorddos cyffuriau gan gynnwys cyffuriau heroin, fentanyl a chyffuriau lladd poen sydd ar gael ar bresgripsiwn.
Dywedodd Mr Jones, sydd wedi bod yn ymgyrchu o blaid diwygio cyffuriau ers blynyddoedd, mai'r rheswm ei fod mor angerddol am gyflwyno’r chwistrell oedd bod y DU eisoes wedi cael mwy o farwolaethau oherwydd cyffuriau nag unrhyw le arall yn Ewrop.
Roedd pandemig Covid-19 wedi gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn fwy argyfyngus oherwydd y tebygolrwydd y byddai pobl â defnydd problemus o gyffuriau yn cymryd dewisiadau amgen mwy peryglus os oedd eu cyffur o ddewis yn brin.
Gwelodd Sir y Fflint 21 o farwolaethau oherwydd cyffuriau yn y cyfnod dwy flynedd diweddaraf rhwng 2016-2018, mwy nag un rhan o bump o gyfanswm gogledd Cymru.
Digwyddodd yr achos cyntaf o achub bywyd fis ynghynt pan alwyd aelod arall o’r tîm gwirfoddolwyr, y Rhingyll Gill Roberts, sydd wedi’i lleoli yn yr Wyddgrug, i faes parcio gwesty gan swyddogion heddlu a oedd wedi dod o hyd i ddyn yn anymwybodol.
Dywedodd y Rhingyll Roberts, sydd wedi bod yn heddwas am 23 mlynedd: “Roedd uned arfau wedi dod o hyd i ddyn yn gorwedd ym maes parcio’r Holiday Inn yn Llaneurgain ar ôl i’w deulu adrodd ei fod ar goll a mynegi pryder am ei iechyd meddwl.
O fewn 30 eiliad wedi iddi ddefnyddio’r chwistrell roedd yn ymwybodol ac yna aethpwyd ag ef i’r ysbyty.
Dywedodd y Comisiynydd, sy’n gyn arolygydd heddlu: “Fy ngweledigaeth erioed oedd cyflwyno'r fenter hon ar draws y Gogledd.
“Mae gweld hyn yn digwydd yn un o’r pethau yr wyf mwyaf balch ohonynt yn ystod fy nhymor yn y swydd.
“Mae Naloxone eisoes wedi achub dau fywyd yng ngogledd Cymru a bydd rŵan yn arbed llawer mwy o fywydau yn y dyfodol.
Mae hynny’n bwysig iawn oherwydd mai hon yw egwyddor gyntaf plismona, sef ein bod ni yno i arbed bywydau ac amddiffyn pobl ac mae hyn yn rhan o’n gwaith craidd.
“Mae Naloxone yn gweithio fel diffibriliwr ac yn fy marn i does dim gwahaniaeth rhwng hyn a defnyddio diffibriliwr ar rywun sydd wedi cael trawiad ar y galon.
“Rwy’n falch o ddweud bod heddluoedd eraill bellach yn edrych i ddilyn ein hesiampl tra bod Heddlu’r Alban wedi hyfforddi a defnyddio dros 200 o swyddogion a all weinyddu Naloxone ac yn gobeithio ymestyn hyn i y tu hwnt i 700 o heddweision.
Ychwanegodd Mr Jones:“ Hoffwn ddiolch hefyd i Gill Roberts o’r Wyddgrug sydd wedi bod ar flaen y gad wrth ddod o hyd i fasgiau FFP3 ar gyfer swyddogion sydd wedi’u hyfforddi i weinyddu Naloxone tra bod yr Arolygydd Iwan Jones wedi bod yn allweddol wrth roi’r fenter bwysig hon ar waith.”
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Jones: “Mae gallu cario’r chwistrell naloxone yn rhoi rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio i atal marwolaeth.
“Mae'n chwistrell trwynol syml, does dim angen rhoi pigiad na dim felly, ac mae'r swyddogion i gyd wedi cael hyfforddiant ar sut i’w ddefnyddio. Mae'n rhywbeth rydyn ni i gyd wedi gwirfoddoli i'w wneud.
“Mae'n debyg na fyddai'r dioddefwr yn anadlu a’r cyfan sydd angen i’r swyddog heddlu ei wneud yw ei roi yn y trwyn a chwistrellu ac mae'n gweithio bron yn syth, mewn dau neu dri munud."
Mae'r Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno’r chwistrell.
Meddai: “Mae ymchwil gwyddonol trylwyr wedi’i wneud i Naloxone ac mae cofnod cynhwysfawr o’i effeithiolrwydd wrth atal marwolaethau oherwydd gorddos.
“Rwy’n ddiolchgar iawn bod rhai o swyddogion heddlu Sir y Fflint wedi gwirfoddoli i gario Naloxone dros y chwe mis diwethaf mewn cynllun peilot, gan ddefnyddio Naloxone yn mewn achosion gwirioneddol ar ddau achlysur, ac yn ein barn ni mi arweiniodd hynny’n uniongyrchol at achub bywydau - roedd yr heddweision a ddefnyddiodd y chwistrell ar yr achlysuron hynny yn teimlo boddhad gwirioneddol eu bod nhw wedi llwyddo i arbed bywydau.
“Mae’r cynllun peilot yn Sir y Fflint nid yn unig wedi dal sylw y cyfryngau yn y Deyrnas Unedig ond heddluoedd eraill hefyd.
“Bellach mae Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei ystyried fel gwasanaeth heddlu sydd ar flaen y gad yn y maes hwn o leihau niwed ac mae llawer o heddluoedd eraill bellach yn dilyn ein harweiniad ac yn archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio Naloxone.
“Ond rydym yn pwysleisio’n glir ar hyn o bryd mai dim ond swyddogion sy'n gwirfoddoli i wneud hynny fydd yn cario Naloxone.
“Bydd unrhyw un sy’n gwirfoddoli yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn ac yn gallu tynnu allan o’r cynllun ar unrhyw adeg.
“Yn sicr, mae'r fenter hon yn cefnogi'r flaenoriaeth graidd i swyddogion amddiffyn a chadw bywyd.
“Ni fydd yn disodli nac yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r gwasanaeth ambiwlans, oherwydd bydd yn dal yn ofynnol i’r criw ambiwlans drin y claf, ond bydd swyddogion heddlu sy’n cario chwistrell Naloxone yn gallu ei roi ar unwaith fel rhan o'r ymateb cymorth cyntaf cychwynnol ac o bosibl arbed bywyd y claf.”