Dyddiad
Mae cwt sgowtio pentref yn mynd i gael ei weddnewid yn llwyr a’i droi yn ganolbwynt go iawn i’r gymuned leol - diolch i arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Grŵp Sgowtio Cyntaf Mynydd Isa yn un o’r ddau enillydd o Sir y Fflint i dderbyn £2,500 oddi wrth gronfa arbennig sy’n cael ei rhedeg gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Bellach bydd y grŵp yn medru bwrw ymlaen gyda’r gwaith o weddnewid y cwt sgowtio, sy’n croesawu dros 150 o bobl ifanc yn rheolaidd ac yn cael ei ddefnyddio saith diwrnod yr wythnos.
Dywedodd Dan Reynolds, arweinydd y Grŵp Sgowtio: “Cafodd y Cwt Sgowtio ei adeiladu 27 mlynedd yn ôl ac yn ogystal â 80 Sgowt a hefyd Cybiau, Afancod a Geidiaid, mae hefyd llawer o sefydliadau lleol eraill yn defnyddio’r cwt ond mae angen mawr i’w adnewyddu.
Rydym eisiau ailosod y toiledau a gwella’r cyfleusterau eraill fel ei fod yn medru bod yn ganolfan rhagoriaeth i’r ardal gyda grwpiau yn dod yno i wersylla.
Byddai wedi cymryd amser hir i godi’r holl arian felly mae derbyn y grant yn golygu ein bod yn medru dechrau yn syth a symud prosiectau eraill yn eu blaenau hefyd.”
Mae’r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), sy’n dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2018.
Hon yw pumed flwyddyn y cynllun dosbarthu arian ac mae wedi dosbarthu £160,000 i achosion haeddiannol. Cafodd llawer o hwnnw ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n defnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr, a’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer cyrff sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn, yn unol â blaenoriaethau’r Comisiynydd yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.
Eleni, mae 14 o grantiau ynghyd â chyfanswm o bron £40,000 wedi mynd i gefnogi cynlluniau gan gyrff cymunedol, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy bleidlais ar lein. Roedd 35 o brosiectau’n cystadlu, a chafodd bron i 10,000 o bleidleisiau eu bwrw.
Derbyniodd Sgowtiaid Mynydd Isa y wobr yn seremoni gyflwyno flynyddol Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.
Cynllun llwyddiannus arall yn Sir y Fflint oedd Ffrindiau ‘Iard’ Coedlan y Parc yn Saltney a dderbyniodd £2,500 ar gyfer eu Prosiect Adnewyddu Cymunedol sy’n ceisio lansio ffair llawn gemau cymunedol ym misoedd Mawrth a Gorffennaf er mwyn annog pobl leol a grwpiau cymunedol i gymryd rhan.
Mae’r cynllun yn cynnwys gwlâu blodau wedi codi ar gyfer preswylwyr, plannu coed, man picnic, llwybr troed hygyrch i gadeiriau olwyn a theledu cylch cyfyng i atal fandaliaid sydd wedi bod yn bla ar yr ardal.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki. Dywedodd Arfon Jones: “Rydw i’n hynod falch bod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol.
Yn ddiweddar, mi wnes i lansio Polisi Gwerth Cymdeithasol, sy’n ceisio ehangu ein cefnogaeth i gymunedau lleol ac mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gyfle i mi wneud yn union hynny.
Mae hon yn gronfa unigryw sy’n gadael i’n cymunedau ddewis pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol, ac mae’r ymateb yn dangos y gall cymunedau weithio efo’i gilydd i wneud ein llefydd cyhoeddus ni’n fwy diogel.
Rydw i wedi ymweld â nifer o’r prosiectau oedd yn llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael argraff arbennig o dda o’r gwaith ddigwyddodd. Mae'n sicrhau bod ein cymunedau ni’n parhau i fod yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.
Mae cyflawni Cymdogaethau Diogelach yn un o’r blaenoriaethau allweddol i mi yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ac rydw i’n falch iawn bod eich sefydliadau chi wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki: “Cafodd yr arian rydych wedi’i dderbyn ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a thrwy asedau wedi’u cymryd oddi ar droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
Mae hon yn neges arbennig o bwysig am fod proffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth y Llysoedd, yn golygu ein bod ni wedi gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo – yn eu pocedi.
Dyma’r bumed flwyddyn o arian Eich Cymuned, Eich Dewis, ac yn ystod yr adeg hon mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adennill £2.3 miliwn o arian ac asedau. Daeth £627,000 ohono yn ôl i Ogledd Cymru oddi wrth y Swyddfa Gartref, i gefnogi cynlluniau fel hyn.
Mae’n gyrru neges gadarnhaol iawn bod arian sydd wedi’i gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg i fod yn arian da.
Ychwanegodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, David Williams: “Rydym yn arbennig o falch o fedru helpu i weinyddu’r gronfa hon.
Rwy’n credu bod rhoi grantiau ar raddfa mor eang ar draws y cyfan o Ogledd Cymru, o’r pen pellaf yn y gorllewin i’r pen arall yn y dwyrain, yn gyrru neges gref i gymunedau i geisio cael rywfaint o’r arian hwn, mae o yna ar eu cyfer nhw.
Mae’n briodol iawn mai un o’r amodau ydi bod angen i bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n rhoi sylw i drosedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd arall.
Mae’r nodau mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ceisio’u cyrraedd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Trosedd ac Anhrefn y Comisiynydd, ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”
Jenna Tapley a Dan Reynolds o Grŵp Sgowtio Mynydd Isa yng Ngwobrau Eich Cymuned Eich Dewis gyda, o’r chwith, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a Chadeirydd PACT David Williams.