Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn galw ar garchardai i dreialu rhoi canabis am ddim i garcharorion er mwyn eu helpu i oresgyn eu problemau cyffuriau a lleihau trais yn y carchar.
Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, y gallai’r syniad radical yma hefyd atal marwolaethau oherwydd gorddos cyffuriau mewn carchardai.
Yn 2018 bu farw carcharor o’r enw Luke Morris Jones, 22 oed, o Flaenau Ffestiniog, yn CEM Berwyn ar ôl cymryd y cyffur Spice.
Wrth siarad yn ystod cyfweliad gyda phapur newydd y Guardian, dywedodd Mr Jones pe bai awdurdodau cyfiawnder o ddifrif ynglŷn â lleihau niwed a thrais mewn carchardai, “dylent fynd i’r afael â’r achosion” fel spice y canabinoid synthetig rhad sy’n rhemp ac a all fod yn farwol, yn hytrach na chanabis.
Mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn gyffredin mewn carchardai ac mae llawer o garcharorion yn derbyn sylweddau yn lle heroin fel methadon a buprenorffin er mwyn ceisio rheoli eu dibyniaeth yn gyfreithlon.
Mae cyffuriau eraill sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn gyffredin yn cynnwys lleddfwyr poen cryf fel pregabalin a gabapentinoidau - sydd i gyd yn gyffuriau a allai fod yn beryglus a gwneud pobl yn gaeth iddynt.
Datgelodd y Guardian y mis diwethaf bod dros 300 o swyddogion carchar a staff allanol wedi’u diswyddo neu wedi’u cael yn euog am ddod ag eitemau gwaharddedig - gan gynnwys cyffuriau, tybaco a ffonau symudol - i mewn i garchardai yng Nghymru a Lloegr dros y pum mlynedd diwethaf.
Yn y Deyrnas Unedig mae defnyddio canabis ar gyfer dibenion hamdden yn erbyn y gyfraith ond mae wedi’i gyfreithloni i’w ddefnyddio at ddibenion meddygol.
Ond, meddai Mr Jones, mae mynediad at olew canabis llawn trwy’r GIG bron yn amhosibl.
Dywedodd Mr Jones: “Mae opioidau dipyn mwy peryglus na chanabis.
“Os yw carcharorion ar opioidau, pam na ellir rhoi canabis ar bresgripsiwn iddyn nhw?”
“Gadewch i ni gyflenwi canabis mewn ffordd sy’n cael ei rheoli a gweld a yw troseddau’n lleihau.
“Y nod yn y pen draw yw gwneud carchardai yn fwy diogel. Os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â lleihau trais mewn carchardai dylen nhw fynd i’r afael â’r achosion a’r sylweddau seicoweithredol hynny. Ar ben hynny, mae yna ystod eang o faterion y gellid defnyddio canabis i leihau eu risg.”
Mae defnyddio canabis at ddibenion hamdden yn parhau i fod yn anghyfreithlon yn y DU ond mae’r planhigyn wedi’i gyfreithloni at ddefnydd meddygol, ond gyda chyfyngiadau sylweddol.
Cafodd y syniad o dreialu canabis am ddim mewn carchardai ei gynnig yn 2018 gan y ffarmacolegydd Dr Stephanie Sharp.
Dywedodd Dr Sharp fod gadael carcharorion i ysmygu sbeis yn “eu condemnio i farwolaeth” ac y byddai eu caniatáu i ysmygu canabis yn “llawer mwy diogel”.
Yn fwy cyffredinol, mae Mr Jones hefyd wedi galw am reoleiddio canabis er mwyn dileu troseddau cyfundrefnol a chaniatáu i bobl dyfu ychydig ohono at eu defnydd personol eu hunain.
Mae’n credu bod gwahardd yn wrthgynhyrchiol a dylid ei reoli’n gyfreithiol yn union fel alcohol a thybaco sydd wedi achosi mwy o niwed i unigolion a chymdeithas yn gyffredinol.
Ychwanegodd: “Mae’n nonsens gwneud troseddwyr allan o bobl sy’n cymryd canabis at ddefnydd hamdden sydd ddim yn achosi unrhyw niwed i unrhyw un arall.
“Y ffordd orau o leihau rôl troseddu cyfundrefnol wrth gyflenwi cyffuriau yw ei roi mewn dwylo masnachol a’i brisio’n briodol fel nad oes angen i bobl fynd i’r farchnad anghyfreithlon.
“Mae sefydliadau masnachol wedi cymryd drosodd y farchnad canabis meddyginiaethol ac yn gwerthu presgripsiynau am gost enfawr er ei fod yn rhad i’w dyfu. Yn fy marn i, mae hynny’n gyfystyr â chymryd mantais difrifol.
“Rwy’n credu y dylid caniatáu i bobl dyfu nifer cyfyngedig o blanhigion canabis at eu defnydd eu hunain.”