Dyddiad
Mae Aelod Seneddol sydd wedi blocio pennaeth heddlu ar Twitter wedi cael ei beirniadu'n hallt oherwydd ei sylwadau “annynol” am ffoaduriaid.
Cafodd Sarah Atherton, AS Ceidwadol Wrecsam, ei beirniadu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, am ddweud y dylid defnyddio’r Llynges i rwystro ffoaduriaid rhag croesi mewn cychod ar draws y Sianel.
Mae Ms Atherton a etholwyd i’r senedd am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr, wedi cael ei chondemnio’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol am ei sylwadau “camarweiniol” a “thwp”.
Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu: “Rwy’n credu ei fod yn stỳnt sinigaidd ganddi i dynnu sylw oddi wrth y llywodraeth Dorïaidd sydd wedi delio’n wael efo'r argyfwng y coronafeirws, a llanast yr algorithm gyda chanlyniadau Safon Uwch yn Lloegr.
“Mae’r hyn y mae hi wedi’i wneud yn warthus oherwydd mae’n porthi rhagfarn a chulni na fydd yn gwneud dim i leihau troseddau casineb yn ein cymunedau. Mae'n creu stigma o gwmpas pobl sy'n cael eu hystyried yn wahanol.
“Mae angen i Sarah Atherton sylweddoli ei bod hi’n siarad yma am fodau dynol y mae eu bywydau wedi cael eu troi ben i waered gan ryfel. Meibion, merched, mamau a thadau pobl yw'r rhain. Mae rhai ohonyn nhw'n blant ifanc iawn. Mae'r syniad o arfogi'r fyddin yn eu herbyn yn iasol.
“Y peth olaf y dylen ni fod yn ei wneud yw eu dad-ddynoli trwy greu casineb. Ni fyddem yn hoffi pe bai ein ffrindiau a'n teulu ni’n hunain yn cael eu trin felly.
“Yr hyn y dylem ei gofio yw bod llawer o’r bobl hyn yn ffoi o wledydd fel Irac ac Affghanistan, llefydd y mae’r Deyrnas Unedig wedi’u hansefydlogi trwy fynd i ryfel yno. Oherwydd hynny mae gennym gyfrifoldeb tuag at y bobl hyn.
“Mae hi hefyd wedi cael ei ffeithiau yn anghywir iawn sy’n dipyn o embaras iddi. Mae hi'n ymddwyn fel rhywun sy’n chwilio am sylw drwy agor ar ei cheg heb wybod y ffeithiau.”
Mewn ymateb i gael ei flocio ar Twitter gan Ms Atherton dywedodd: “Rwy’n credu ei bod yn ffordd anhygoel o anaeddfed a phitw o ymateb i gael ei herio ar bolisi. Rwyf yn un blith llawer o'i hetholwyr y mae hi wedi'u blocio am wneud yr un peth.
“Mae hi’n atal pobl rhag ymateb i’w thrydariadau, sy’n dangos cyn lleied o barch sydd ganddi tuag at ei hetholwyr ac sy’n nodweddiadol o’r ffordd y mae’r Torïaid yn ceisio osgoi craffu cyhoeddus am eu methiannau a’u polisïau ofnadwy.
Mewn trydariad ar Twitter dywedodd Ms Atherton: "Yr hyn yr ydym yn ei weld ar raddfa enfawr gyda’r cychod yn croesi’r Sianel yw yr union beth hynny, torri ein cyfraith mewnfudo mewn ffordd cwbl agored gan ymfudwyr economaidd a gangiau masnachu mewn pobl.
“Nid yw’n hawdd anfon mewnfudwyr sydd wedi cyrraedd y Deynras Unedig yn ôl, fel y mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod, oherwydd fframwaith cyfreithiol ein haelodaeth flaenorol o’r UE, fframwaith yr ydym yn dal yn rhwym iddo nes i’r cyfnod trosglwyddo ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
“Mae’r fframwaith hwn yn rhoi pŵer gormodol yn nwylo cyfreithwyr hawliau dynol anatebol nad ydynt yn meddwl am y budd gorau i’n gwlad.
“Hyd nes i’r cyfnod trosglwyddo ddod i ben pryd y gallwn unwaith eto ailddatgan ein sofraniaeth dros faterion lloches a mewnfudo rhaid i ni atal y cychod hyn rhag cyrraedd dyfroedd Prydain.
"Dylai Lluoedd Ffiniau'r DU dderbyn pa gymorth bynnag sy'n ofynnol gan Luoedd Arfog EM yn yr ymdrech hon."
Beirniadwyd ei datganiad cyhoeddus yn eang am gynnwys nifer o wallau ffeithiol megis cymysgu'r system loches a'r system fisa, a chamddeall cyfraith ryngwladol.
Fe wnaeth Dan Sohege, arbenigwr cyfraith ffoaduriaid rhyngwladol drafod y mater ar Twitter.
Meddai: “Mae gan geiswyr lloches hawl i geisio lloches, heb gosbau o ran dull mynediad, yn benodol oherwydd yr amgylchiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ffoi rhag erledigaeth. Mae hwn yn fater o gyfraith ryngwladol yn hytrach na chyfraith ddomestig, nid cyfraith yr UE yn benodol fel y cyfeiriodd hi ato.
“O'r dechrau i'r diwedd mae'r llythyr hwn gan @AthertonNWales yn llawn gwallau a chamsyniadau. Byddwn yn awgrymu, er budd gwirioneddol y wlad, y byddai'n well i Aelodau Seneddol ddysgu mwy ar lefel elfennol o leiaf am y deddfau sy'n ein llywodraethu cyn llefaru gwiriondeb.
Yn ôl yr arbenigwr Cyfreithiol The Secret Barrister, sydd â bron i 400,000 o ddilynwyr ar Twitter, roedd y datganiad gan Ms Atherton yn “rhyfeddol o dwp”.
Meddai: “Nid yw cyfreithwyr yn atebol i’r llywodraeth. Rydym yn annibynnol ac yn atebol i'n rheolyddion. Mae ein dyletswydd ni i'n cleientiaid. Nid i blesio ASau sy’n ysgrifennu llythyrau gwirion.”