Dyddiad
Mae system deledu cylch cyfyng (TCC) sydd wedi bod o gymorth i ddatrys 70% yn fwy o droseddau mewn tref ymwelwyr yng Ngwynedd wedi cael hwb ariannol - diolch i arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.
Roedd cynllun Gwarchod Bermo Watch yn llwyddo gyda’r camerâu roeddent yn eu rhedeg yn y Bermo, ond roedd rhai o’r camerâu wedi stopio gweithio a rhai o’r unedau mor hen nes nad oeddent yn recordio’n iawn.
Erbyn hyn, mae modd gwella’r system a chael rhannau newydd iddi, ar ôl cael grant o £2,500 oddi wrth gronfa arbennig sy’n cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
Mae’r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), sy’n dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2018.
Hon yw pumed flwyddyn y cynllun dosbarthu arian ac mae wedi dosbarthu £160,000 i achosion haeddiannol. Cafodd llawer o hwnnw ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n defnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr, a’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer cyrff sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn, yn unol â blaenoriaethau’r Comisiynydd yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.
Eleni, mae 14 o grantiau ynghyd â chyfanswm o bron £40,000 wedi mynd i gefnogi cynlluniau gan gyrff cymunedol, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy bleidlais ar lein. Roedd 35 o brosiectau’n cystadlu, a chafodd bron i 10,000 o bleidleisiau eu bwrw.
Cynhaliwyd y seremoni gyflwyno ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Yno roedd Deanna Fisher o Dalybont, a sefydlodd Gwarchod Bermo Watch, ac meddai: “Mae’r cynllun teledu cylch cyfyng yn cael ei redeg gan grŵp ymroddedig iawn o tua hanner dwsin o wirfoddolwyr.
Mae’r system wedi bod yn hanfodol er mwyn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i lawrlwytho deunydd i’w ddefnyddio fel tystiolaeth yn y llysoedd.
Ers i ni ddechrau mae Gwarchod Bermo wedi bod o gymorth i’r heddlu gael tystiolaeth ar gyfer pethau fel difrod troseddol i eiddo a cheir, bwrglera a lladrad, troseddau efo’r drefn gyhoeddus, digwyddiadau efo gynnau a digwyddiadau lle'r oedd honiadau o dreisio.
Mewn gwirionedd, mae’r heddlu wedi dweud wrthym bod cynnydd o 70% wedi digwydd mewn datrys troseddau, diolch i’n teledu cylch cyfyng ni.
Er hynny, mae’r system yn dameidiog ar hyn o bryd am nad ydi rhai camerâu’n gweithio a bod unedau recordio mor hen nes nad ydi’r rheiny’n gweithio’n iawn.
Mae’r system yn ddrud i’w chynnal ac mae’n her barhaus i ni gael yr arian i dalu amdani, dyna pam fod yr arian oddi wrth Eich Cymuned, Eich Dewis yn rhoi hwb mor fawr i ni, a ninnau mor falch o hynny.
Ein nod ni ydi cadw’r Bermo’n lle mwy diogel a braf i bobl fyw ynddo, ond rydan ni’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau oddi wrth y cyhoedd fel cymorth i gynnal y camerâu a’r unedau recordio.”
Y cynllun arall yng Ngwynedd wnaeth lwyddo ydi Clwb Bocsio Amatur Maesgeirchen, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Maesgeirchen
Cafodd hwnnw grant o £2,500 oddi wrth Eich Cymuned, Eich Dewis, fydd o gymorth i brynu offer campfa a bocsio i’r clwb.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki. Dywedodd Arfon Jones: “Rydw i’n hynod falch bod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol.
Yn ddiweddar, mi wnes i lansio Polisi Gwerth Cymdeithasol, sy’n ceisio ehangu ein cefnogaeth i gymunedau lleol ac mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gyfle i mi wneud yn union hynny.
Mae hon yn gronfa unigryw sy’n gadael i’n cymunedau ddewis pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol, ac mae’r ymateb yn dangos y gall cymunedau weithio efo’i gilydd i wneud ein llefydd cyhoeddus ni’n fwy diogel.
Rydw i wedi ymweld â nifer o’r prosiectau oedd yn llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael argraff arbennig o dda o’r gwaith ddigwyddodd. Mae'n sicrhau bod ein cymunedau ni’n parhau i fod yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.
Mae cyflawni Cymdogaethau Diogelach yn un o’r blaenoriaethau allweddol i mi yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ac rydw i’n falch iawn bod eich sefydliadau chi wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki: “Cafodd yr arian rydych wedi’i dderbyn ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a thrwy asedau wedi’u cymryd oddi ar droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
Mae hon yn neges arbennig o bwysig am fod proffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth y Llysoedd, yn golygu ein bod ni wedi gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo – yn eu pocedi.
Dyma’r bumed flwyddyn o arian Eich Cymuned, Eich Dewis, ac yn ystod yr adeg hon mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adennill £2.3 miliwn o arian ac asedau. Daeth £627,000 ohono yn ôl i Ogledd Cymru oddi wrth y Swyddfa Gartref, i gefnogi cynlluniau fel hyn.
Mae’n gyrru neges gadarnhaol iawn bod arian sydd wedi’i gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg i fod yn arian da.
Ychwanegodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, David Williams: “Rydym yn arbennig o falch o fedru helpu i weinyddu’r gronfa hon.
Rwy’n credu bod rhoi grantiau ar raddfa mor eang ar draws y cyfan o Ogledd Cymru, o’r pen pellaf yn y gorllewin i’r pen arall yn y dwyrain, yn gyrru neges gref i gymunedau i geisio cael rywfaint o’r arian hwn, mae o yna ar eu cyfer nhw.
Mae’n briodol iawn mai un o’r amodau ydi bod angen i bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n rhoi sylw i drosedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd arall.
Mae’r nodau mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ceisio’u cyrraedd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Trosedd ac Anhrefn y Comisiynydd, ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”