Dyddiad
Mae pennaeth heddlu wedi addo ymgyrch uwch-dechnoleg i erlid gangiau sy’n dod dros y ffin i droseddu mewn dwy dref yng ngogledd Cymru.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi sicrhau £1 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid ar gyfer heddlu'r rhanbarth ar gyfer cyfres o gynlluniau gan gynnwys camerâu Adnabod Rhif Cerbydau'n Awtomatig (ANPR) a mwy o ddarpariaeth teledu cylch cyfyng yn Wrecsam a'r Rhyl.
Y nod yw targedu lladron a byrgleriaid sy'n teithio i’r Gogledd o lefydd fel Lerpwl a Manceinion yn ogystal â throseddwyr lleol fel rhan o'r ymgyrch Strydoedd Mwy Diogel.
Gall camerâu ANPR ddarllen rhif cofrestru cerbyd a'i wirio ar unwaith yn erbyn cofnodion cronfa ddata o gerbydau.
Os yw o ddiddordeb, gall swyddogion heddlu atal y cerbyd, ei wirio am dystiolaeth ac, os oes angen, arestio pobl.
Yn ôl Mr Jones, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ganolbwyntio ar fannau troseddu problemus yn y ddwy gymuned ar ôl iddo gyflwyno dau gynnig llwyddiannus am arian ychwanegol gan y Swyddfa Gartref.
Bydd y prosiect yn ardal Parc Caia yn Wrecsam yn derbyn £550,000 tra bydd yr un yn West End y Rhyl yn cael £517,000.
Bydd y prif ffocws ar fynd i'r afael â throseddau caffael - dwyn, byrgleriaeth a lladrata - sy'n cyfrif am hyd at 40 y cant o'r holl droseddau a gyflawnir.
Yn Wrecsam bydd y Comisiynydd a'r heddlu'n gweithio'n agos gyda Chyngor Wrecsam a Phartneriaeth Parc Caia.
Bydd pecynnau atal troseddau byrgleriaeth yn cael eu dosbarthu i 1,000 o breswylwyr tra bydd wardeiniaid cymunedol ac aelodau o'r cynllun gwarchod cymunedol gwirfoddol yn cael eu hyfforddi i helpu preswylwyr i gymryd camau eu hunain i atal troseddu.
Bydd tri bloc garej yn cael eu dymchwel a darperir ffens 200 metr ychwanegol ynghyd â gwell goleuadau a gatiau i wneud saith stryd gefn yn fwy diogel.
Elfen bwysig arall o gynllun Parc Caia fydd cronfa amgylcheddol i fynd i'r afael â graffiti, tirlunio ardaloedd cymunedol, torri llwyni a thynnu coed.
Bydd ymagwedd debyg yn cael ei mabwysiadu yn y Rhyl gan y bartneriaeth a fydd hefyd yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Prosiect Rheoli Cymdogaeth Gorllewin y Rhyl a chymdeithas dai Clwyd Alyn.
Bydd gwelliannau amgylcheddol yn cynnwys gwell arwyddion, cael gwared ar graffiti, biniau newydd a chreu gofod cymunedol newydd, ynghyd â gwell goleuadau mewn dwy stryd gefn.
Bydd mwy na 600 o becynnau atal troseddau byrgleriaeth yn cael eu danfon i breswylwyr y credir eu bod yn wynebu risg o fyrgleriaeth a bydd trigolion lleol yn cael eu hyfforddi fel hyrwyddwyr atal troseddau.
Dywedodd y Comisiynydd Arfon Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu: “Mae mor bwysig bod pobl gogledd Cymru’n teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau. Mae'n ymwneud ag achub ar bob cyfle posib i atal troseddau caffael, lle mae troseddwyr yn cymryd eiddo gan ddioddefwyr trwy ladrad neu fyrgleriaeth.
“Mae'n hanfodol ein bod ni'n buddsoddi yn ein trefi ac yn arbennig yn y cymunedau sydd efallai angen mwy o gymorth, er mwyn i ni allu eu gwneud yn fwy diogel i bawb. Os gallwn wella diogelwch trwy oleuadau stryd gwell, er enghraifft, gall wneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch y cyhoedd.
“Fodd bynnag, ni allwn gyflawni’r amcanion hyn ar ein pennau ein hunain. Mae angen i ni weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yn ogystal â grwpiau cymunedol os ydym am gael unrhyw obaith o lwyddo.”
Ychwanegodd: “Rydym yn gwybod o'n dadansoddiadau bod byrgleriaeth, er enghraifft, yn digwydd yn gyson ac ar raddfa anghymesur mewn rhai cymunedau. Mae Queensway, Wrecsam a Gorllewin y Rhyl yn fannau problemus go iawn o ran troseddau caffael. Mae'n bryd i hynny newid.
“Gallwn helpu i atal llawer o droseddu trwy gymryd camau syml fel goleuadau stryd gwell, rhoi gatiau ar strydoedd cefn ac ychwanegu nodweddion diogelwch at adeiladau cymunedol.
“Mae'n hwb enfawr i gymunedau ac i ogledd Cymru yn gyffredinol a bydd o gymorth mawr i ni fynd i'r afael ag atal troseddu mewn ffordd sy'n cynnwys y ddwy gymuned.”
Roedd yn deimlad a ategwyd gan yr Uwch-arolygydd Helen Corcoran, sydd â gofal am ddiogelwch cymunedol.
Meddai: “Rwy’n falch iawn bod y ddau gynnig wedi denu buddsoddiad haeddiannol. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ddwy gymuned ac yn ein helpu i gadw preswylwyr yn fwy diogel.
“Mae'n ymwneud â mynd i'r afael â byrgleriaeth a lladrata. Y troseddau hyn sy'n cyfrif am oddeutu 40 y cant o'r holl droseddau - a bydd unrhyw un sydd wedi dioddef byrgleriaeth yn dweud wrthych fod y profiad yn un hynod ofidus.
“Mae delio â’r troseddau hyn hefyd yn cymryd cryn dipyn o amser gwerthfawr yr heddlu y gellid ei dreulio yn ymchwilio i droseddau difrifol eraill felly mae hyn yn hwb enfawr ym mhob ffordd.”