Dyddiad
Mae cyn-ddefnyddiwr cyffuriau a fu’n gwerthu bagiau o LSD ar strydoedd Wrecsam i dalu am ei harfer pan oedd hi’n 14 oed wedi ennill gwobr arbennig gan bennaeth heddlu.
Mae Zoe Davies bellach yn 39 oed, heb gymryd cyffuriau ers dros ddwy flynedd, ac wedi adfer ei pherthynas â’i theulu ac yn gweithio i dywys eraill oddi ar y llwybr i fywyd o gaethiwed.
Cyflwynwyd y Wobr Adferiad iddi yng Ngwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, yng Ngwesty Kinmel Manor, Abergele.
Dywed y fam i dri o blant, o Brynhyfryd, Wrecsam, i’w phroblemau ddechrau pan oedd hi tua 13 oed pan ddechreuodd dreulio amser gyda phlant hŷn a oedd yn yfed, ysmygu ac yn cymryd cyffuriau.
Dywedodd: “Roeddwn i’n blentyn clyfar yn yr ysgol, o hyd yn y dosbarth uchaf ac roedd gen i deulu gwych, ond doeddwn i byth yn teimlo fy mod i’n perthyn ac roeddwn i gyda’r criw anghywir. Doeddwn i ddim yn hoffi fy hun ac roedd gen i hunan-barch isel.
“Roedd y sylweddau roeddwn i’n eu cymryd yn llenwi’r gwacter ac yn rhoi hyder i mi. Pan ddechreuais i gymryd cyffuriau doedd dim llawer o gyffuriau a llawer o chwerthin, erbyn y diwedd roedd llawer o gyffuriau a dim chwerthin.
“Dechreuais ysmygu canabis ac ecstasi ac yfed alcohol ac erbyn i mi droi’n 14 roeddwn i’n gwerthu LSD – doedd dim llawer o elw ynddo, ond roeddwn i’n medru prynu rhagor o gyffuriau.
“Es i ymlaen i sigarennau methadon erbyn i mi fod yn 17 oed ac roeddwn i’n dda iawn am dwyllo meddygon i roi cyffuriau ar bresgripsiwn i mi.
“Roeddwn i’n mwynhau ar y dechrau ond roedd y cyffuriau yn fy nhwyllo. Wnaethon nhw addo nad oedd angen i mi boeni ac na fyddwn i’n teimlo tristwch na phoen, ac ar y pryd roedd yn gyffrous ac erbyn i mi droi’n 18 roeddwn i’n gaeth.
“Wedyn mi wnaeth meddygon yn ardal Wrecsam roi’r gorau i roi methadon ar bresgripsiwn ond roeddwn i’n gaeth iddyn nhw a deffrais yn teimlo’n sâl, yn chwydu, a dyna oedd y symptomau diddyfnu.
“Ers hynny rwyf wedi dadwenwyno fy hun sawl gwaith ond wedyn perswadio fy hun y byddai cymryd dim ond yn un iawn.
“Rwyf wedi symud tŷ oherwydd roeddwn i’n meddwl mai’r lle yn hytrach na fi oedd y broblem.
“Rwyf wedi byw yn Lerpwl ac yn Sir Gaerhirfryn ac es i i’r carchar am y tro cyntaf am werthu cyffuriau yn 2008 ac ar ôl hynny ges i swydd dda, yn gweithio mewn becws, a symud ymlaen i fod yn gynorthwyydd gwerthu, ond wedyn es i i’r carchar eto yn 2013.”
Yn y cyfamser roedd Zoe hefyd wedi cael tair merch ac mi wnaeth eu colli nhw, a’i mam yn mynd yn sâl tra roedd hi yn y carchar, ei gwneud hi’n benderfynol o roi’r gorau i’r arferiad.
Dywedodd: “Roeddwn i’n amddifadu fy mhlant o’u mam ac yn amddifadu fy mam o’i merch a doedd y cyffuriau ddim yn cuddio’r ffaith bod fy mam yn gofalu am fy mhlant, a’r niwed roedd fy nghaethiwed yn ei wneud iddyn nhw ac iddi hi.
“Roeddwn i yn y carchar ar ben-blwydd fy merch yn 18 oed, diwrnod pwysicaf ei bywyd, felly pan wnes i ddod allan o'r carchar mi wnes i fynd ar raglen 12-cam gyda phobl oedd wedi gwella o fod yn gaeth a oedd yn dangos bod ffordd allan i mi.
“Yr hiraf yr oeddwn i’n mynd heb gymryd cyffuriau, y mwyaf roedd fy nheulu yn sylweddoli fy mod o ddifrif y tro hwn, a rŵan mae’n union ddwy flynedd ac wythnos i’r diwrnod y derbyniais y wobr ers i mi gymryd cyffuriau.
“Rwy’n teimlo’n wych a gallaf edrych yn y drych a gallaf fod yn fam ac yn ferch a helpu eraill a thalu ‘nôl i bobl a chymuned Wrecsam am y drafferth a achosais.
“Rwy’n meddwl amdano fel ras gyfnewid. Mae rhywun wedi rhoi’r baton i mi a dyna pam dw i dal heb gymryd cyffuriau, ac rwy’n trosglwyddo’r baton ymlaen i eraill.”
Mae Zoe yn gwirfoddoli gydag asiantaeth CAIS sy’n cynorthwyo pobl sy’n gaeth i gyffuriau, a nawr hefyd yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn Hafan Wen, y ganolfan ddadwenwyno yn Wrecsam. Ychwanegodd:
“Mae CAIS wedi rhoi mwy na bywyd yn ôl i mi, maen nhw hefyd wedi rhoi fy nheulu yn ôl.”
Enwebwyd Zoe gan y Comisiynydd Jones, a dywedodd: “Mae Zoe o hyd wedi bod yn barod i helpu eraill ar ôl dod o le tywyll iawn ei hun, ac mae hi’n mynd allan i’r gymuned yn anhunanol er mwyn dangos i bobl bod yna ffordd well i fyw.
“Mae hi o hyd yn ceisio trosglwyddo’r neges o adferiad ac mae hi wedi arwain nifer o bobl tuag at lwybr adferiad.
“Mae Zoe wedi goresgyn brwydr hir iawn gyda’i chaethiwed i gyffuriau a’i bywyd o anhrefn ac wedi trawsnewid ei bywyd yn llwyr o fewn y ddwy flynedd diwethaf ac mae hi bellach yn symbol o obaith i nifer o bobl yn y gymuned.”
Teimlai’r Comisiynydd Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ei bod hi’n bwysig cydnabod ymdrechion arwyr tawel y gymuned.
Dywedodd: “Mae un peth yn gyffredin i’n holl enillwyr, sef eu bod yn gwneud Gogledd Cymru yn lle gwell a mwy diogel i fyw a gweithio ynddo.
“Mae llawer o bobl anhunanol yn gwneud llawer o waith da yn y gymuned drwy helpu Heddlu Gogledd Cymru ac mae’r gweithwyr tawel hyn yn mynd yr ail filltir yn aml iawn gan wneud cyfraniad a sicrhau bod eu cymunedau yn ddiogel.
“Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae hyn yn ymrwymiad personol a wnaed heb ddisgwyl unrhyw fath o wobr neu gydnabyddiaeth.
“Mae’r seremoni wobrwyo hon felly, yn gyfle i gydnabod ymdrechion diflino’r arwyr tawel hyn ac i annog eraill i ddilyn eu hesiampl dda.”