Dyddiad
“Yn gynharach eleni rhannais fy siom ar sut y cafodd swyddogion heddlu eu bradychu â chynnig cyflog 0%. Yn ystod y 18 mis diwethaf gwelwyd yr amodau gwaith anoddaf i swyddogion heddlu; gyda swyddogion yng Ngogledd Cymru, a ledled y DU, yn mynd y tu hwnt i hynny yn sgil pandemig Covid-19.
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar a nodwyd yn y Gyllideb, rwy'n falch o glywed am y newyddion y bydd rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus yn cael ei godi. Bydd hyn yn golygu y bydd swyddogion heddlu a staff yn ein heddlu yn gweld codiad cyflog am y tro cyntaf mewn degawd yn dilyn toriadau cyflog.
Er fy mod yn croesawu'r newyddion hyn, rwy'n siomedig bod y Llywodraeth yn disgwyl i'r codiad cyflog hwn gael ei ariannu gan ein cymunedau lleol trwy'r praesept. Dylai unrhyw godiad cyflog gael ei ariannu'n iawn gan y Llywodraeth ganolog. Edrychaf ymlaen at gael eglurhad pellach yn y Setliad Plismona ym mis Rhagfyr.
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, byddaf yn parhau i weithio i sicrhau bod llais ein swyddogion heddlu a staff yn cael ei glywed.
Diolch,Andy Dunbobbin. "